David Russell Hulme
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth
BA (Anrhydedd), MA, PhD, TAR
Cyswllt
Ebost: drh@aber.ac.uk
Swyddfa: Canolfan Gerdd y Brifysgol, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AU
Rhif Ffon: 44(0)1970 622744
Cyfrifoldebau
Fel Cyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol â chyfrifoldeb am Ganolfan Gerdd y Brifysgol, mae David yn hyrwyddo rhaglen eang o ensembles a gweithgareddau ar gyfer aelodau o’r Brifysgol a’r gymuned ehangach. Ef yw arweinydd y gerddorfa symffoni, Philomusica, a’r côr cymysg mawr, yr Undeb Corawl.
Bywgraffiad
Penodwyd David yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yn 1992. Oherwydd y galw mawr amdano fel arweinydd, mae ei raglen brysur wedi mynd ag ef i rai o’r prif neuaddau cyngerdd ledled Prydain, Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd, UDA a Chanada, ac mae wedi ymddangos mewn llefydd mor amrywiol ag Opera Frenhinol Canada, Gŵyl Christchurch (Seland Newydd) a Gŵyl Ryngwladol Gilbert & Sullivan, Buxton. Mae’n gweithio’n rheolaidd gyda’r cwmni opera enwog, y Carl Rosa Opera Company, prif gwmni operetâu Saesneg y byd, ac yn 2001 teithiodd o amgylch Awstralia a Seland Newydd, yn arwain Cerddorfa Talaith Victoria, yr Auckland Philharmonia a Cherddorfa Tŷ Opera Sydney, cyn mynd ar deithiau o gwmpas UDA a Chanada yn 2004 a 2006.
Astudiodd David gerddoriaeth yn Aberystwyth o dan Ian Parrott, ac arwain o dan neb llai na Syr Adrian Boult. Cafodd raddau MA a PhD am ei ymchwil i Gerddoriaeth Prydeinig, ac mae wedi cyhoeddi’n eang, gan gynnwys erthyglau ar gyfer y New Grove Dictionary of Music and Musicians a Phroms y BBC. Cafodd ei ddisgrifio yn Opera fel ‘ein prif awdurdod ar lawysgrifau Sullivan’, bu’n ymwneud yn agos â chynyrchiadau gan gwmnïau opera blaenllaw yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Cenedlaethol Lloegr (ENO), New Sadler’s Wells a D’Oyly Carte, yn ogystal ag eraill yn America ac Awstralia. Golygodd gerddoriaeth Sullivan a gweithiodd mewn rôl ymgynghorol ar gyfer ffilm Mike Leigh, Topsy-Turvy, a enillodd Oscar, ac mae ei argraffiad arloesol a llwyddiannus o Ruddigore, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, ar hyn o bryd yn repertoire Opera North. Mae’r gweithiau eraill y mae wedi’u golygu ar gyfer Gwasg Prifysgol Rhydychen yn amrywio o Paukenmesse Haydn i Ail Symffoni Walton.
Mae David yn derbyn cryn dipyn o sylw a chlod am gynnwys cerddoriaeth Brydeinig, sy’n cael ei hesgeuluso’n aml, yn ei raglenni, gan ddod â’i ddiddordebau ysgolheigaidd yn fyw drwy berfformiadau. Mae’r cyfansoddwr Edward German yn enghraifft o hyn. Yn ogystal â bod yn awdurdod blaenllaw ar gerddoriaeth Almaenaidd, mae David hefyd yn ei arwain yn rheolaidd gydag artistiaid nodedig mewn digwyddiadau megis Gwyliau Cerddoriaeth Edward German. Yn ogystal, yn ddiweddar recordiodd opera ysgafn y cyfansoddwr, Tom Jones, gyda chast o unawdwyr rhyngwladol. Cafodd ei rhyddhau ar label Naxos, gan neidio’n syth i rif 3 yn y siartiau clasurol. Yn ogystal â chael ei dewis fel Recordiad y Flwyddyn, mae wedi cael ei chanmol yn uchel iawn gan y beirniaid.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae David yn geidwad ar Archif Edward German, casgliad helaeth o lawysgrifau, papurau a phethau cofiadwy’r cyfansoddwr. Mae hefyd yn Is-Lywydd Cymdeithas Syr Arthur Sullivan.
Cyhoeddiadau
LLYFRAU
Nell Gwyn gan Edward German, sgoriau piano llawn i’r gerddoriaeth achlysurol wedi’u golygu, gyda Rhagair, Munich, Musicproduktion Hofflich, 2008.
Symphony No.2 gan William Walton, sgôr llawn wedi’i olygu, gyda chyflwyniad ac esboniadau beirniadol, Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006.
Missa in Tempora Belli gan Joseph Haydn, sgôr lawn wedi’i golygu, gyda chyflwyniad ac esboniadau beirniadol, Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2003.
Missa in Tempora Belli gan Joseph Haydn, sgôr piano/lleisiol wedi’i olygu, gyda chyflwyniad, Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002.
Quartet for 2 Violins, Viola and Cello gan Arthur Sullivan, sgôr lawn wedi’i golygu, gyda chyflwyniad ac esboniadau beirniadol, Newmarket, Mayhew, 2001.
Ruddigore gan Arthur Sullivan a W.S.Gilbert, sgôr a libreto llawn wedi’u golygu gydag esboniadau beirniadol, cyflwyniad ac atodiadau, Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000.
Ruddigore gan Arthur Sullivan a W.S.Gilbert, sgôr piano/lleisiol, wedi’i golygu, gyda nodyn cyflwyniadol ac atodiadau, Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2000.
CYFRANIADAU I LYFRAU GOLYGIEDIG
The Cambridge Companion to Gilbert and Sulivan (gol. David Eden, Meinhard Saremba), Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2009;
‘Adventures in musical detection: scholarship, editions, productions and the future of the Savoy Operas’
The New Grove Dictionary of Music (gol. Stanley Sadie), Llundain, Macmillan, 2000;
Cofnod am Syr Edward German gyda chatalog o’r gweithiau.
The New Grove Dictionary of Opera (gol. Stanley Sadie), Llundain, Macmillan, 1992;
Cofnod am Syr Edward German a Syr Arthur Sullivan a chofnodion ar 14 o weithiau unigol.
Princess Ida (gol. David Eden);
‘Some thoughts on the autograph score’; Saffron Walden, Cymdeithas Syr Arthur Sullivan, 1984.
The Yeomen of the Guard and Macbeth (gol. David Eden)
‘Sullivan’s Macbeth Music’; Saffron Walden, Cymdeithas Syr Arthur Sullivan, 1988.
Cox and Box and The Chieftain (gol. David Eden)
'The Evolution of Cox and Box '; Saffron Walden, Cymdeithas Syr Arthur Sullivan, 1994.
Ruddigore (gol. David Eden)
'Ruddigore: An Investigation of Musical Sources'; Saffron Walden, Cymdeithas Syr Arthur Sullivan, 1987.
The Mikado (gol. David Eden)
'O Ni! Bikurri Shakurri To!'; Saffron Walden, Cymdeithas Syr Arthur Sullivan, 1985.
Trial by Jury and The Sorcerer (gol. David Eden)
'Sidelights on The Sorcerer' (tud. 1 – 4); 'Trial by Jury: Towards a First Night Text'); 'The Usher's Song' (tud 23); Saffron Walden, Cymdeithas Syr Arthur Sullivan, 1984.
SAIN A FFILM
Tom Jones, opera ddigri mewn tair act, cerddoriaeth gan Edward German, Naxos 2 CD, (2 CD: 8.660270 – 71), 2009 (arweinydd).
Topsy-Turvy, ffilm wedi’i gyfarwyddo gan Mike Leigh, Thin Man Films, 2000 (ymgynghorydd cerddorol/golygydd testun hanesyddol).
ARGRAFFIADAU PERFFORMIO
Deunydd perfformio wedi’i olygu o ‘autograph’ a ffynonellau eraill ar gyfer perfformiadau proffesiynol a ffilm.
Cerddorfa a Chôr yr Ŵyl Genedalethol; unawdydd
Edward German: ‘Tom Jones’ (arweinydd: David Russell Hulme), Naxos Records, 2009.
Cerddorfa Gyngerdd y BBC
Edward German: Symphony Rhif. 1, Agorawd i The Tempter, The Willow Song, Hamlet (Darllediad BBC Radio 3, 2005) – recordiwyd gan Dutton.
Opera Carl Rosa
The Pirates of Penzance (2001).
Thin Man Films
Topsy-Turvy (cyfarwyddwr: Mike Leigh) (2000). Deunydd perfformio ar gyfer y lluniau ‘byw’ o’r theatr (The Sorcerer, Princess Ida, The Mikado).
Opera Cenedlaethol Cymru
The Yeomen of the Guard (arweinydd. Syr Charles Mackerras) (1994) – recordiwyd gan Telarc.
Opera Cenedlaethol Lloegr
Princess Ida (arweinydd: Jane Glover, cyfarwyddwr: Ken Russell) (1992).
Opera D'Oyly Carte
Patience (1994) – recordiwyd gan TER (gydag ail-greadau o ‘The Duke's Song' a diweddglo a hepgorwyd).
The Yeomen of the Guard (1993) – recordiwyd gan TER (gydag argraffiadau o dair cân 'golledig').
H.M.S. Pinafore (1990).
Trial by Jury (1990).
The Mikado(1898) – recordiwyd gan TER (gydag ail-gread o fersiwn a hepgorwyd o ‘Were you not to Ko-Ko plighted’).
The Pirates of Penzance (1989) – recordiwyd gan TER.
Opera New Sadler's Wells
The Gondoliers (1988).
Ruddigore (1987) (yn cynnwys adferiad o destun cerddorol gwreiddiol a deunydd ‘coll’) - recordiwyd gan TER; darlledwyd gan B.B.C. Radio 3 (Awst 1987).
H.M.S. Pinafore (1987) – recordiwyd gan TER (gydag ail-gread o ddiweddglo ‘coll’).
Academi Gerdd Boston
Ruddigore (1987).
DETHOLIAD O ERTHYGLAU A PHAPURAU CYNHADLEDD
Cylchgrawn Cymdeithas Syr Arthur Sullivan
‘Recording Tom Jones’, Gwanwyn 2010.
Brio (cylchgrawn Sefydliad Rhyngwladol Llyfrgelloedd, Archifau a Chanolfannau Dogfennaeth Cerddorol.)
‘Orpheus with his lute: sources of Edward German’s music for the Victorian and Edwardian drama’, Hydref / Gaeaf 2000 .
Lost and Only Sometimes Found (cynhadledd ar gyhoeddi ac archifau cerddoriaeth)
Canolfan Wybodaeth am Gerddoriaeth Prydeinig, Llundain, Mai 1990
'Sullivan and German: auctions and publishers' (trawsgrifiad a gyhoeddwyd yn Lost and Only Sometimes Found (gol. Lewis Foreman), Upminster, Cymdeithas Cerddoriaeth Prydain, 1992)
The Savoyard
'The Zoo: a study of the autograph full score':
Rhan I – Mai 1978 ; Rhan II – Medi 1978.
'Cox and Box; or, the Long-lost Music', Mawrth 1981.
Cerddoriaeth Gymraeg
'Ian Parrott's The Lady of Flowers', Haf 1983.
Detholiad o erthyglau a gyhoeddwyd i gyd-fynd a chynyrchiadau proffesiynol a recordiadau sain sy’n cynnwys esboniadau beirniadol gwreiddiol neu esboniadau testunol.
Perfformiadau
‘Blood & Thunder & Creative Conflict’, traethawd hanesyddol/ beirniadol ar gyfer Ruddigore (Sullivan) – Opera North, 2010.
Traethawd hanesyddol/ beirniadol a chrynodeb ar gyfer Patience (Sullivan) – Proms y BBC, 2009.
‘W. S. Gilbert’, proffil awdur ar gyfer Proms y BBC, 2009.
Traethawd hanesyddol/ beirniadol a chrynodebau ar gyfer H.M.S Pinafore, Pineapple Poll, ac ati – Proms y BBC, 2005.
‘Arthur Sullivan’, Proffil o’r cyfansoddwr ar gyfer proms y BBC, 1997; ailargraffwyd 2002, 2005, 2009.
Traethawd hanesyddol/ beirniadol ar gyfer The Gondoliers – Proms y BBC, 1997.
'A Great English Opera' - The Yeomen of the Guard, Opera Cenedlaethol Cymru, 1994.
'A Respectful Per-Version of Tennyson's The Princess ' – Princess Ida, Opera Cenedlaethol Lloegr, 1992.
Traethawd hanesyddol/beirniadol ar gyfer Ruddigore – Taith Genedlaethol New Sadler's Wells, 1986.
Recordiadau Sain
Edward German – ‘Tom Jones’ (wedi’i arwain a’i olygu gan David Russell Hulme), Naxos, 2009.
Edward German – Symphony No. 1 and other orchestral works (wedi’i olygu gan David Russell Hulme), Dutton, 2005.
Cox and Box & Trial by Jury (Sullivan), Chandos, 2005.
The Golden Legend (Sullivan), Hyperion, 2001.
Six Sullivan Overtures, recordiad gan gylchgrawn cerddoriaeth y BBC, Mai 1999.
Edward German Orchestral Works - Vol II, Marco Polo, 1995.
Edward German Orchestral Works - Vol I, Marco Polo, 1995.
HMS Pinafore (Sullivan) (New Sadler's Wells Opera), TER, 1987.
Ruddigore (Sullivan) (New Sadler's Wells Opera), TER, 1987.
Nifer o draethodau a ysgrifennwyd i’w recordio gan D’Oyly Carte Opera, yn cynnwys y gwaith canlynol sy’n cynnwys trafodaethau o ymchwil testunol yr awdur.
Patience, TER, 1994.
The Yeomen of the Guard, TER, 1993.
The Mikado, TER, 1990