Elin Wyn Williams

Swyddog Hyfforddi ac Ansawdd
Llun o Elin Wyn Williams.

Cyswllt

Ebost: eiw@aber.ac.uk
Swyddfa: Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth, P5, , Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UX
Ffôn: 01970 628463

Cyfrifoldebau

Yn gyfrifol am weithdrefnau sicrhau ansawdd ar draws Canolfan Cymraeg i Oedolion y Canolbarth; gweithredu ac hyfforddi ar raglen hyfforddi’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion; hyfforddi tiwtoriaid a darpar diwtoriaid ar y Cymhwyster Cenedlaethol

Gwybodaeth Ychwanegol

Arholi Allanol: Cyfwelydd Llafar ar arholiadau CBAC

Profiad Sicrhau Ansawdd:  Arfarnu tiwtoriaid y Ganolfan a gweithredu rhaglen arfarnu dros y rhanbarth cyfan;  Arolygydd Cymrheiriaid ESTYN. Cyfrannu’n helaeth at lunio dogfennau Hunan Asesu’r Ganolfan

Gwaith Cydweithredol: Cydweithredu â phartneriaid yn y maes yn rhanbarthol ac yn genedlaethol

Cyflwyniadau Cynhadledd: Cyflwyno papur a gweithdy yng Nghynhadledd Rhyngwladol IATEFL yng Nghaerdydd yn 2009: Cyflwyno gweithdai yng Nghynadleddau blynyddol APADGOS

Bywgraffiad

Gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, Tystysgrif Addysg i Raddedigion sector Uwchradd yn y  Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth