Jaci Taylor
Swyddog Datblygu
Cyswllt
Ebost: jmt@aber.ac.uk
Swyddfa: Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
Prifysgol Aberystwyth
Ystafell 3.32
P5,
Campws Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UX
Rhif Ffon: +44 01970 628462
Cyfrifoldebau
Marchnata a dysgu anffurfiol yn bennafBywgraffiad
Ar ôl dysgu Cymraeg ar ddechrau'r 80au, dysgais Gymraeg fel ail iaith i nifer o bobl yn ardal Aberystwyth. Ar ddiwedd yr 80au, dechreuais fy musnes fy hun o'r enw ‘Iaith ar Daith’ sy'n darparu amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg i Oedolion gan gynnwys cwrs i rieni a phlant ifainc. Ar ôl nifer o flynyddoedd fel tiwtor Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion, a dim sôn am swydd barhaol yn y maes, newidiais gyfeiriad a chael swydd ran-amser yn gweithio i GWELED, Cymdeithas Celfyddydau Gweledol Cymru, rhwng 1991 a 1998. Ym 1996 cefais fy mhenodi'n Gydlynydd CYD, sefydliad elusennol sy'n helpu dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith y maent wedi'i dysgu yn y dosbarth. Cefais fy swydd bresennol yn 2007, blwyddyn ar ôl i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru agor yn Aberystwyth.
Mae gennyf ddiddordeb arbennig ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith i blant bach a'u rhieni a/neu aelodau eraill o'r teulu estynedig. Credaf ei fod yn faes sydd â photensial i adfer yr iaith Gymraeg ar raddfa eang pe bai cymorth sylweddol ar gael gan Lywodraeth Cymru.