Megan Harnet
Darlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod
BA Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Addysg ac Astudiaeth Plant
Cyswllt
Ebost: meh19
Swyddfa: P5 Ystafell 2.36.
Rhif Ffon: 2957
Dysgu
Rwy’n darlithio ar gynlluniau gradd israddedig mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ac yn dysgu ar y modiwlau canlynol: Gweithio drwy chwarae, Chwarae ar waith, Anghenion Addysgol Arbennig a Sgiliau Astudio
Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil ym maes anabledd ac anghenion addysgol arbennig. Rwy’n edrych yn benodol ar fyfyrwyr anabl sy’n symud ymlaen i addysg uwch. Ar ôl gorffen fy ngradd PhD rwy’n bwriadu datblygu fy ymchwil yn sawl thema wahanol: edrych ar gymorth bugeiliol o fewn addysg uwch, a chynhwysiant plant ifanc mewn ysgolion cynradd.
Bywgraffiad
Cefais radd BA (anrhydedd) dosbarth cyntaf mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod o Brifysgol Cymru, Caerdydd. Yna, es ymlaen i astudio ar lefel uwchraddedig, ac rwyf ar hyn o bryd yn gwneud gradd PhD. Symudais o Gaerdydd i Aberystwyth yn 2012 i ymgymryd â swydd fel darlithydd yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes.