Dr Malcolm Thomas

Cyfarwyddwr yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes
Gradd Anrhydedd 2.1 mewn Bioleg Cymhwysol (Technoleg), astudiaeth PhD â’r teitl 'Breakdown products of Vitamin C and their metabolism' Photograph of Dr  Malcolm  Thomas.

Cyswllt

Ebost: mlt@aber.ac.uk
Rhif Ffon: 01970 622102
Ffacs: 01970 622258

Cyfrifoldebau

Rwy’n gyfrifol am oruchwylio holl ddarpariaeth ddysgu’r Ysgol. Prif feysydd arbenigol yn cynnwys dysgu TAR Uwchradd Gwyddoniaeth/Bywydeg, ac Iechyd ac Addysg i israddedigion.

Proffil

Pan fydd amser yn caniatáu, rwy’n gerfiwr pren brwd sy’n arbenigo mewn cerfio llwyau traddodiadol a llwyau caru Cymreig a drosglwyddwyd drwy’r teulu. Fy nhad-cu a gerfiodd y llwy garu i goffáu arwisgo Tywysog Cymru yn 1969 yn ogystal â’r rhoddion o lwyau caru i bob carfan y chwaraeodd Llewod 1974 yn eu herbyn yn Ne Affrica. Rwyf innau’n parhau â thraddodiad y teulu, ac mae fy ngwaith bellach i’w weld yn British Craftsmanship in Wood (gol. Betty Norbury), t. 156. Stobart Davies Cyf). Cyhoeddwyd y llyfr yn 1990.

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar addysg iechyd ac addysg maeth. Ers canol y 90au, bûm yn canolbwyntio’n bennaf ar ysgolion sy’n hybu iechyd a chynnal nifer o astudiaethau yng Nghymru a Lloegr. Cafodd y gwaith hwn ei ymestyn i Tsieina a Chanada a Nepal yn fwyaf diweddar. Mae fy nghydweithiwr,  Aniko Varpalotai, a minnau yn cynnal ymchwil ar hyn o bryd i werthuso manteision Canolfan Wellness mewn ysgol uwchradd wledig yn Ontario. Mae natur y gwaith ymchwil bellach wedi newid o ysgolion yn hybu iechyd yn y 90au i ysgolion sy’n llwyddo o ran iechyd lle ceir mwy o bwyslais ar agwedd holistaidd yr ysgol yn ogystal â’r gymuned. Yn y cyd-destun hwn y gwneir gwaith ymchwil cyfredol er mwyn adnabod yr anghenion, yr arferion a’r heriau sy’n wynebu ysgolion mewn cymunedau gwledig.

 

Cyfraniadau Ymchwil Eraill:

  • Arwain grŵp ymchwil amlsefydliadol Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru ar ‘Bartneriaethau yn y Gymuned Wledig’. Roedd yr astudiaeth gwmpasu hon yn archwilio gweithredu gweithio mewn partneriaeth ym myd addysg yng Nghymru wledig, gan gyfrannu tuag at ddealltwriaeth feirniadol uwch o ddeinameg gweithio mewn partneriaeth, ac at ddatblygiad polisi ac arferion addysg wledig. Yn ogystal ag ystyried y dimensiwn strwythurol a’r heriau a wynebir gan bartneriaeth wledig gyfredol, roedd yr astudiaeth gwmpasu hefyd yn archwilio effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth wrth adnabod ac ymateb i anghenion addysgol lleol, ac yn ystyried y potensial i bartneriaeth ymestyn ffiniau mentrau addysgol cyfredol.                 
  • Aelod cyfredol o grŵp llywio prosiect y Loteri Fawr ‘Iachus Gyda’n Gilydd’ Cyngor Sir Ceredigion ‘Teuluoedd Iach Ffordd o Fyw’. Gweler yr adran isod*
  • Trefnu Seminar ‘Partneriaethau’. Grŵp Bwrsariaeth Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru, Addysg Wledig. 11 Mehefin 2008, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd.
  • Cyfraniad Arbenigol i Baneli yn Adolygu Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Athrofa Cymdeithas, Iechyd a Moeseg Caerdydd, Prifysgol Caerdydd. Conwy. Tachwedd 2007            
  • Cyfrannu at Gynllun Gweithredu Strategaeth Bwyd a Maeth Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion, fel ymateb lleol i ‘Strategaeth Bwyd a Lles’ Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd, a Strategaeth Gofal Iechyd Cymdeithasol a Lles Ceredigion (Gorffennaf 2005 – Mawrth 2008).

Gwybodaeth Ychwanegol

Arholi Allanol:    

  1. Arholwr allanol ymgeisydd PhD (Kathryn Bullen) o Adran Seicoleg, Prifysgol Cymru Abertawe yn Chwefror 2001.                      
  2. Arholwr Allanol  ‘Professional Education and Development UG and PG Scheme / Scheme of Professional Learning and Education’, Prifysgol Leeds Metropolitan o Dachwedd 2004.
  3. Arholwr allanol ymgeisydd PhD (Maria Foudoulaki) o’r Adran Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, Mawrth 2005.    
  4.  Penodwyd yn arholwr allanol BA Astudiaethau Plentyndod ac FdA Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Chymorth Dysgu (drwy gyfrwng y Gymraeg) ym Mhrifysgol Abertawe i ddechrau Hydref 2008. 
  5. Penodwyd yn arholwr allanol  MA Addysg/Education yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin i ddechrau Hydref 2008.

Profiad o Sicrhau Ansawdd:      

  • Aelod a enwebwyd gan Estyn ar gyfer cyfarfodydd tîm archwilio HCA, Tachwedd 2006 – Mehefin 2007.
  • Asesydd allanol yr Adolygiad Pum Mlynedd o BA Addysg Gynradd gyda SAC a chyrsiau TAR Cynradd, Mawrth – Gorffennaf 2006.
  • Aelod o Banel Dilysu: Diploma Addysg i Raddedigion, Athrofa Addysg Uwch Abertawe, 22 Medi 2004.                         
  • Aelod o Banel Dilysu: Diploma Addysg i Raddedigion, Athrofa Addysg Uwch Abertawe, 3 Ebrill 2003.                  
  • Panel Dilysu Prifysgol Cymru, cynrychiolydd Panel Pwnc y brifysgol / MA Addysg, Prifysgol Abertawe, Gorffennaf 1999.
  • Panel Dilysu Prifysgol Cymru, cynrychiolydd Panel Pwnc y Brifysgol, cyrsiau trosglwyddo TAR/i ddychweledigion, Athrofa Addysg Uwch Caerdydd, Hydref 1998.        
  • Aelod o Banel Pwnc Prifysgol Cymru ar gyfer Gweithgor Addysg ar CATS, ers 1994.   
  • Aelod o Fyrddau Dilysu Prifysgol Cymru – Cyd-fwrdd Astudio Coleg Addysg Uwch Gwent. Rhagfyr/Ionawr. 1990/1.               

 

Aelodaeth o Gyrff Ymgynghorol:

  • Aelod o  UCET Cymru, ers Awst 2009.   
  • Aelod o grŵp cais i’r Gronfa Loteri Fawr ‘Teuluoedd Iach Ffordd o Fyw’ Cyngor Sir Ceredigion, Gorffennaf 2007.
  • Aelod o Grŵp Gweithredol Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru, ers Medi 2007 – Gorffennaf 2009.
  • Aelod o Strategaeth a Chynllun Gweithredu Bwyd a Lles Ceredigion, Gorffennaf 2005 – Mawrth 2008. Aelod o’r grŵp SAU Cymru a arweiniodd at y fenter ‘Datblygu Rhwydwaith Meithrin Gallu Ymchwil Addysgol: Cynnig am Beilot yng Nghymru’, Mai – Gorffennaf 2007.
  • Aelod o Grŵp Gweithredu Bwyd a Maeth Ceredigion (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru), ers Gorffennaf 2004.
  • Aelod o Grŵp Gorchwyl Sgiliau Bagloriaeth Cymru CBAC (Peilot), Ionawr – Ebrill 2002.
  • Cyfarwyddwr Partneriaeth Addysg Busnes Dyfed Cyf., rhwng Medi 1994 ac Awst 2000.        
  • Grŵp Gorchwyl Hybu Iechyd Cymru, Menter Ysgolion Iach, Ionawr – Mawrth 1999.
  • Aelod o Grŵp Gorchwyl Partneriaeth Addysg Busnes Dyfed ar Dargedau Cenedlaethol, Ionawr 1993 – Rhagfyr 1994.
  • Aelod o Gyngor Partneriaeth Addysg Busnes Dyfed, rhwng Medi 1991 ac Awst 1994.
  • Aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Datblygu Staff AALl Dyfed, 1991 – 1993.Aelod o Grŵp Achredu AALl Dyfed/Prifysgol Cymru, 1992 – 1993.
  • Aelod o Weithgor Dysgu Hyblyg AALl Dyfed, 1992 – 1993.
  • Aelod o Gorff Ymgynghorol Menter Dechnolegol, Addysgol a Galwedigaethol (T.E.V.I.) CPGC, Bangor, (prosiect datblygu staff), yn ystod y cyfnod Ionawr 1990 – Mehefin 1991.

 

Gwaith Cydweithredol:

Gweler yr adrannau uchod sy’n ymwneud â chydweithredu â chydweithwyr yng Nghanada ar brosiectau ymchwil iechyd gwledig ac ysgolion iach, a phartneriaethau mewn addysg wledig drwy’r fenter Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru.

Yn ogystal â’r uchod, rwy’n ymwneud hefyd â’r prosiect WISHES (Gweithio’n Rhyngwladol ar Ddatblygiad ac Iechyd Cymdeithasol yn Ysgolion a Theuluoedd Ewropeaidd). Nod y prosiect yw cynnig agwedd integredig sy’n gwella’r berthynas rhwng yr ysgol a’r cartref yn sylweddol. Mae cyfres o dair cynhadledd yn yr arfaeth a gynhelir rhwng 2012 a 2014.                           

Gwobrau a Dderbyniwyd:

  1. Clod Gwobr Unilever: Gwobrau Ymddiriedolaeth Partneriaeth 1995 ar gyfer Hyfforddiant Athrawon mewn Biotechnoleg (5 Rhagfyr 1995)
  2. Gwobr Rhagoriaeth Dysgu, 17 Mehefin 2004
  3. Dyrchafu yn Uwch-Ddarlithydd, 23 Mawrth 2005, a ddaeth i rym o 1 Hydref 2005.
  4. Ysgol Haf 2007 yng Nghyfadran Addysg, Prifysgol Western Ontario, London, Ontario, Canada, 28 Mai – 28 Mehefin 2007.            
  5. Penodi yn Ddirprwy Ddeon Cyfadran y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth, Chwefror 2008.
  6. Cymrodoriaeth Astudio Dramor Leverhulme, 1 Mehefin 2009 – 31 Mai 2010.


Cyhoeddiadau

Cann, R., Thomas, M. & Jephcote, M. (2011) The Challenges and Benefits Presented By Partnerships Within Rural Education In Wales, The Welsh Journal of Education, 15, 80-90.

Hamilton-Ekeke, J-T. a Thomas, M. (2011) Teaching/learning methods and students’ classification of food items. Health Education, 111, Rhif 1, 66-85.

Thomas, M., Brake, P., Cann, R., Evans, A., Hagen, Jephcote, M., G., Morgan, D., Neil, P., Pester, S., Taylor, C. a Woods, M. (2009) Partnerships in Rural Education: Identification of Research Themes. Welsh Journal of Education, 14, Rhif 2, 144-149.

Varpalotai, A. a Thomas, M. (2009) West Elgin Secondary School Wellness Survey (2007-08): Final Report. Cyfadran Addysg: Prifysgol Western Ontario, Canada.

Thomas, M. a Weng, W. (2008) Health promotion and education policy and practice in urban schools in Liaoning province, China, Promotion & Education, XV,  Rhif 4, 44-49.

Hamilton-Ekeke, J-T. a Thomas, M. (2008) Evaluation of a pilot study on student’s conceptual understanding and practical skills acquisition of dietary knowledge, International Journal of Health Promotion and Education, 46, Rhif 4, 142-150.

Varpalotai, A. a Thomas, M. (2007) The perceptions of stakeholders in Canada and Wales on health education in rural communities: a comparative study, Education in Rural Australia, 17, (1), 59-69.

Hamilton-Ekeke, J-T. a Thomas, M. (2007) ‘Primary children’s choice of food and their knowledge of       balanced diet and healthy eating’, British Food Journal, 109, Rhifyn 6, 457-468.

Weng, Wen-yan a Thomas, M. (2007) ‘Status of urban school health education and health promotion in three cities of Shenyang, Fushun and Tieling in Liaoning Province’, Chinese Journal of Health Education, 23, (1), 10-12.

Singleton, E., Thomas, M. a Varpalotai, A. Philosophical Dimensions of Children’s Sport in the      Context                of Schools and Physical & Health Education, Children, Sport, and Physical Activity :                 Philosophical Dimensions Electronic Conference Proceedings, Mai 30 – Mehefin 1, 2007, Prifysgol Western Ontario, Canada.

Thomas, M. a Weng, Wen-yan (2005) Health promotion practices in Chinese urban schools, Promotion & Education, XII, (3-4), 144.

Hamilton-Ekeke, Joy-Telu a Thomas, M (2005) Pre-adolescents’ understanding of carbohydrate and fat classes of food, Women in Education Network, 2, (2), 10-15.

Thomas, M. a Jones, S. (2005) The impact of group teaching on the acquisition of key skills to teach personal, social and health education, Health Education, 105, (3), 164-185.

Thomas, M. (2005) Post-16 students’ perceptions to health and healthy eating in Welsh secondary schools, Health Education, 105, (2), 89-102.

Thomas, M. (2004) Developing group work and the acquisition of key skills, Bulletin of the Inter-University Lifelong Learning Research Institute, Rhif 9, 1-12.

Thomas, M., Hughes, S.G., Hart, J., Schollar, J., Keirle, K. a Griffith, G.W. (2002) The Biotechnology Summer School: a novel teaching initiative, Innovations in Teaching and Learning Internationally, 39, (2), 124-136.

Thomas, M., Hughes, S.G., Hart, J., Schollar, J., Keirle, K. a Griffith, G.W. (2001) Group project work in biotechnology and its impact on key skills, Journal of Biological Education, 33, (3), 133-140.

Thomas, M. a Thorpe, R. (2001) A study of post-16 science students’ attitudes to biotechnology and its applications, The Welsh Journal of Education, 10, (1), 59-74.

Thomas, M. a Keirle, K. (2001) The health promoting status of secondary schools in Wales pre-and post-local government reorganization: perspectives of health education coordinators. Health Education, 101, (1), 31-37.

NCBE/Unilever (2000) Ymgynghorydd addysgol ar gyfer cyfres o wyth llyfryn ymarferol ar biotechnoleg. Enw’r cyhoeddiad cyntaf yw “Illuminating DNA”. Enw’r ail gyhoeddiad yw “In a jam and out of juice”

Thomas, M., Benton, D., Keirle, K. a Pearsall, R. (2000) An Investigation into the Factors that Prevent Secondary Schools becoming Health Promoting, The Welsh Journal of Education, 64-77.

Thomas, M. (2000) Issues regarding smoking, alcohol, drugs and healthy eating in Welsh secondary schools: perspectives of health education coordinators, The Welsh Journal of Education, 9, (2), 63-74.

Keirle, K. a Thomas, M. (2000) The influence of school health education programmes on the knowledge and behaviour of school children towards nutrition and health, Research in Science & Technological Education, 18, (2), 173-190.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru (1999) Welsh Network of Healthy School Schemes: possible school activities. Aelod o Grŵp Gorchwyl Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru, Caerdydd, Is-adran Hybu Iechyd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Thomas, M. a Griffith, G.W. (1998). Biotechnology Summer School 1998 Summative Report http://www.aber.ac.uk/~dwj/biotech98.htm

Thomas, M. a Griffith, G.W. (1998). Biotechnology Summer School 1998 Summative Report: An Overview of Achievements, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.  

Thomas, M., Benton, D., Keirle, K. a Pearsall, R. (1998) A Review of the Health Promoting Status of Secondary Schools in Wales and England, Health Promotion International, 13, (2), 121-129.

Thomas, M. a Griffith, G.W. (1997). Biotechnology Summer School 1997 Summative Report: An Overview of Achievements, Prifysgol Cymru Aberystwyth    

Thomas, M. a Smith, D.F. (1997). Curriculum Enrichment Programme/Rhaglen Cyfoethogi Cwricwlwm (Pre-16 assessment framework), Prifysgol Cymru Aberystwyth / Partneriaeth Addysg Busnes Cyf.        

Thomas, M ac Evans C.M. (1997). Attitudes to GNVQ. Adroddiad a gomisiynwyd gan Bartneriaeth Addysg Busnes Cyf. Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Aboderin, A. O. a Thomas M. (1996). An Evaluation of the Influence of Behavioural Objectives on Nigerian Students’ Cognitive Achievement in Biology, Research in Science & Technological Education, 14, (2), 193-204.

Thomas, M. (1996). A review of the health promoting status of secondary schools in Wales and England: An Interim Report. Prifysgol Caerhirfryn, Cynhadledd BERA.

Thomas, M., Powell, A. a Fitzjohn, J. (1995). Economic and Industrial Awareness in Teacher Education, The Welsh Journal of Education, 4, (2), pp. 95-104.

Thomas, M. a Keirle, K. (1994). Science at work. SCIP News, No.39, 18-19 & 22. SCIP (Prifysgol Warwig), Stratton Publications Cyf.

Thomas, M. (gol.) (1993). Science at Work/Gwyddoniaeth ar Waith, 24tt. PC Aberystwyth.

Thomas, M. a Horgan, J. (1992). An Enterprising Approach to Science Teaching. In: Enterprise Skills for Engineering and Science. Ar gael ar ddisg (PageMaker 4.2). Butterworth-Heinemann.

Thomas, M. a Powell, A. (1992). Community Placements: Cross-Curricular Themes, Secondary PGCE students,Tachwedd 1991. 68tt. Aberystwyth, CAA..

Thomas, M. a Powell, A. (1992). Curriculum Enrichment Programme/Rhaglen Cyfoethogi Cwricwlwm, 25tt. Aberystwyth, CAA..

Thomas, M., Brown, S., Powell, A. a Keenan, T. (1992). Developing electricity as an exemplar of EIU at key stages 1 and 2, Economic Awareness, 5, (1), 10-16.

Thomas, M. a Howells, M. (1992). Internal Respiration Simulator, Journal of Biological Education, 26(2), 90-93.

Thomas, M. (1991). Course Treats. Yn: Newyddlen EATE, Rhifyn. 3, p 7.

Thomas, M. (1990). Yn: British Craftsmanship in Wood (gol. Betty Norbury), t. 156. Stobart Davies Cyf.

FEU. (1989). The Concept of Key Technologies, Prosiect Ymchwil Rhif RP485, Llundain, FEU.

Thomas, M. a Hughes, R.E. (1987). Diet, metabolism and lifespan in mice, Medical and Research Symposium of the Howard Foundation, Caer-grawnt, Ysbyty Addenbrooke a Choleg Downing.

Thomas, M. a Hughes, R.E. (1985). Tissue ascorbic acid concentrations in araboflavinotic guinea-pigs, IRCS Med. Sci., 13, p. 709.

Thomas, M. a Hughes, R.E. (1985). Evaluation of threonic acid toxicity in small mammals, Food Chemistry, 17, (2), 79-83.

Arnold, P.S., Thomas, M. a Hughes, R.E. (1984). Brown sugar and rat metabolism, IRCS Med. Sci., 12, t. 953.

Thomas, M. a Hughes, R.E. (1983). A relationship between ascorbic acid and threonic acid in guinea-pigs,  Fd. Chem. Toxic., 21, (4), 449-452.

 

Cyhoeddiadau (Yn y wasg):

Thomas, M., Varpalotai A. a Preyra, C. ‘The educational and health challenges facing Maasai children and  youth in rural Kenya and Tanzania and the role of community partnerships in addressing these    challenges: preliminary outcomes’ Trafodion Cynhadledd ‘Development and Implementation of     the Strategies Related to the Family and Children across the World’ ym Mhrifysgol Talaith Belarus, Canolfan Darpar Blentyndod, Minsk.

Cyhoeddiadau (Ar y Gweill)

Thomas, M. ‘A review of health and achieving practices in primary and secondary schools in Wales and England’

Hamilton-Ekeke, J-T. a Thomas, M. ‘Relationship between methods of teaching/learning and students’  conceptual understanding of balanced diet’