Dr. Rosemary Cann

Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu
Photograph of Dr. Rosemary Cann.

Cyswllt

Ebost: ooj@aber.ac.uk
Swyddfa: Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth, P5, , Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UX
Rhif Ffon: 01970 8448

Cyfrifoldebau

Mae Rosemary yn dysgu modiwlau mewn Datblygiad Plant, Seicoleg Dysgu a Meddwl a Datblygiad Mathemategol y Blynyddoedd Cynnar

Ymchwil

Canolbwyntiodd PhD Rosemary ar gyfranogiad myfyrwyr mewn mathemateg ôl-orfodol. Ers ei gwblhau, mae Rosemary wedi bod yn ymchwilio i addysg mathemateg ac i bartneriaethau addysgol mewn ardaloedd gwledig. Mae gan Rosemary ddiddordeb byw yn y systemau cyfrif a ddefnyddir gan blant amlieithog a’r ffordd y gall hyn effeithio ar eu sgiliau mathemategol yn ddiweddarach. Mae Rosemary ar hyn o bryd yn gweithio gyda chydweithiwr yn Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth ar effaith defnyddio systemau cyfrif Cymraeg ar ddatblygiad mathemategol. Gellir gweld nifer o brosiectau a ariennir isod:

Sefydliad Nuffield, ‘Developing the use of visual representations in the primary classroom’. Cynnig am £40,048. Dr. Patrick Barmby, Dr. David Bolden, Maria Stibric (Prifysgol Durham) a Dr. R Cann (Prifysgol Aberystwyth).     

Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru, ‘Education Partnerships in Rural Wales’. £13000 o gyllid i alluogi rhwydweithio cydweithredol gydag aelodau o Brifysgol Caerdydd. Dalwyr y grantiau oedd Thomas, M., Brake, P., Cann, R., Evans, A., Hagen, G., Jephcote, M., Morgan, D.W., Neil, P., Pester, S., Taylor, C., Woods, M.

Rhwydwaith Ymchwil Addysg Cymru, ‘Education Partnerships in Rural Wales’. £10000 o gyllid i alluogi is-grŵp i baratoi ar gyfer cynnig i’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Dalwyr y grantiau oedd Cann, R., Jephcote, M a Thomas, M.

 

Bywgraffiad

Dr. Rosemary Cann yw Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fel Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, mae Rosemary’n goruchwylio’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd ar draws holl ddarpariaethau’r Ysgol. Cafodd Rosemary radd BSc dosbarth cyntaf mewn Mathemateg ac Addysg, cyn mynd ymlaen i wneud ei PhD mewn addysg ym mis Gorffennaf 2008. Roedd ei doethuriaeth yn canolbwyntio ar gyfranogiad myfyrwyr mewn mathemateg yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Rosemary yn dysgu modiwl yn ymwneud â datblygiad plant, seicoleg addysgol ac addysg mathemategol ar y cwrs gradd BA anrhydedd sengl mewn Astudiaethau Plentyndod ac ar raddau cyfun mewn Addysg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gan Rosemary fab ifanc felly mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn ei ddiddanu!

Cyhoeddiadau

Cann, R. (2011) ‘Students’ Perceptions on the Transition from Further Education to Higher Education’, Educational Futures 3 (2) tud.45-55

Cann, R., Thomas, M. & Jephcote, M. (2011) ‘The Challenges and Benefits Presented By Partnerships Within Rural Education In Wales’, Welsh Journal of Education 15 (1) tud.80-90

Cann, R.O. (2009) ‘Girls' participation in post 16 mathematics: a view from pupils in Wales’, Journal of Gender and Education 21 (6) tud.651-669

Thomas, M., Brake, P., Cann, R., Evans, A., Hagen, G., Jephcote, M., Morgan, D.W., Neil, P., Pester, S., Taylor, C., Woods, M. (2009) ‘Partnerships in Rural Education: Identification of Research Themes’, Welsh Journal of Education 14 (2) tud.144-149

Jones, R.O. (2008) ‘Students’ Participation in Post 16 Mathematics: A Perspective from Students in Wales’, Educational Futures 1 (1) tud.71-78

Cyflwyniadau mewn Cynadleddau:

  • Papur a gyflwynwyd yng Nghynhadledd  Myfyrwyr Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain yn 2004 fel rhan o sesiwn lawn
  • Papur a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Myfyrwyr Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain yn 2005 fel rhan o sesiwn lawn
  • Papur a gyflwynwyd i Gymdeithas Astudiaethau Addysgol Prydain yn 2006 fel rhan o sesiwn lawn
  • Papur a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Rhwydwaith Addysg Wledig Cymru yn 2008 fel rhan o sesiwn lawn
  • ‘Partnership Working in Rural Education in Wales: a case study approach into the experiences and perceptions of key stakeholders’. Cyflwynwyd gan Dr Malcolm Thomas yn y Gynhadledd Addysg Wledig yn Saskatoon, Canada