Owen Phillips BA (Anrhydedd Cyfun), TAR (AB), MBA, TMB, CITP-MBCS
MIoEE - Swyddog Menter, Sgiliau a Datblygu
BA (Anrhydedd Cyfun), TAR(AB), MBA, TMB, CITP-MBCS
Cyswllt
Ebost: owp@aber.ac.uk
Rhif Ffon: (01970) 62 2927
Ymchwil
Systemau Gwybodaeth Rheoli mewn Amgylchedd Addysg Bellach (Traethawd Ymchwil MBA)
Bywgraffiad
Yn swyddogaeth bresennol Owen, mae’n gyfrifol am weithio gyda chydweithwyr i adnabod a datblygu Datblygiad Proffesiynol Parhaus, dysgu yn y gweithle a chyfleoedd am ymgynghoriaeth. Mae’r swyddogaeth yn cynnwys dod o hyd i gyfleodd newydd i greu incwm gan ffynonellau allanol, cynllunio a chydlynu rhaglen DPP o gyrsiau yn strategol ledled yr Ysgol ac â sefydliadau eraill
Cyn dechrau gweithio yn yr YADGO, daliodd Owen nifer o swyddogaethau addysgol mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
Fel Ymgynghorydd E-ddysgu – Systemau Gwybodaeth a Llyfrgelloedd ar gyfer RSC Cymru, ym Mhrifysgol Abertawe, roedd swyddogaeth Owen yn golygu ysgogi’r defnydd o ddysgu trwy ddefnyddio technoleg mewn amrywiaeth o gyd-destunau addysgol, gan gynnwys dysgu yn y gweithle, Addysg i Oedolion a’r Gymuned a cheiswyr gwaith. Roedd y swyddogaeth yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar gefnogi staff a dysgwyr ac ehangu ymrwymiadau addysgol â thechnoleg.
Arbenigodd Owen ar botensial busnes rhaglenni Web 2.0, gan alluogi gwell hyrwyddo a marchnata trwy ddefnyddio offer megis rhwydweithio cymdeithasol, systemau gwybodaeth daearyddol a gwasanaethau testun (SMS) i wella a hyrwyddo effeithlonrwydd o ran defnyddio adnoddau a chanlyniadau addysgol gwell. Creodd Owen hefyd ddrafft cyntaf strategaeth iaith Gymraeg RSC, a rhoddodd fewnbwn uniongyrchol i’r broses geisiadau ar gyfer galwadau am gyllid gan JISC, gan adolygu a chefnogi cynigion sefydliadau a rhoi adborth adeiladol.
Yn yr Amgylchedd Addysg Bellach, ymgymerodd Owen ag amrywiaeth o swyddogaethau yng Ngholeg Abertawe:
Rheolwr Datblygu E-ddysgu. Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth Dysgu
Rheoli Partneriaeth Learn Direct Abertawe a gweithgareddau E-ddysgu’r coleg.
Rheolaeth ddosbarthedig dros dîm o 52 aelod o staff ar gyfer Partneriaeth Learn Direct Abertawe a gweithgareddau E-ddysgu’r coleg. Datblygu portffolio adfer costau ac integreiddiad E-ddysgu i’r Gyfadran, y Cwricwlwm a meysydd Swyddogaethol;
Rheolwr Cwricwlwm Busnes TG. Y Coleg Busnes, Abertawe
Rheoli dysgu a datblygu (timau a phrosesau) yng Nghanolfan Fusnes TGCh Cygnus.
Roedd y swydd yn cynnwys arwain a gwiriad mewnol o’r NVQ TGCh a rhaglenni busnes, ac Ymgynghoriaeth E-fasnach, ynghyd â gwerthiant a chydlynu Diwydiannol. Hyrwyddwr TGD. Rheolwr Strategaeth Arloesedd KEF (Ffrwd 2);
Arbenigwr TGCh. Cygnus Online
Datblygu a hyfforddi cymwysterau TGCh generadiad newydd gan gynnwys ICL, Cisco, Microsoft ac academïau a fideo-gynadledda CompTIA. Datblygu, hyfforddi ac arwain y tîm cyflwyno TGCh. Cydlynu allanol. Roedd y cyfrifoldebau’n cynnwys strategaeth TGD a llunio a gweithredu polisi.
Hyfforddwr Staff TG. Swyddfa’r Pennaeth
Cyflwyno hyfforddiant TG, TGCh a TGD yn gyfan gwbl i aelodau o staff, yn amrywio o unigolion i grwpiau maint cyfadran, gan wella perfformiad gweithredol 490 o staff.
Hyfforddwr TG, Cydlynydd GNVQ. Cyfadran Rheoli ac Astudiaethau Proffesiynol
Dysgu a hyfforddi ar gyrsiau TGCh mewn meysydd gwahanol o’r cwricwlwm i gynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys NEETS, oedolion a busnesau, gydag oedrannau’n amrywio o 14 i 83.
Cyn gweithio yng Ngholeg Abertawe, gweithiodd Owen mewn nifer o swyddi, gan gynnwys arweinydd Jobplan/Workwise, ymgynghorydd/cynghorydd myfyrwyr; rheolwr adloniant, ymchwilydd marchnata ac ymchwilydd i Orsaf Radio K-Gold, Missouri, UDA.
Dolenni
Skype: owenowp
Twitter: owenowpGwybodaeth Ychwanegol
Rheoli Prosiectau
Mae Owen wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau addysg arbenigol ar bob lefel, gan gynnwys datblygu cysyniadau, cyflwyno cynigion, cyflwyno rhaglenni a rheoli prosiectau. Dyma rai o'r prosiectau a gafodd eu rhedeg yn llwyddiannus:
JISC - Pwyllgor Gwasanaethau Gwybodaeth Cyfun:
Prosiect ReCITE. (Cynnwys y gellir ei Ailddefnyddio ar gyfer Addysg TG). Ailbwrpasu deunyddiau cyflwyno dysgu i feysydd cwricwlwm gwahanol
Prosiect WALES (Mynediad i Ddysgu yn y Gwaith trwy E-wasanaethau). Cyflwyno a chymorth i ddysgwyr trwy Moodle a dyfeisiau symudol
WETN - Rhwydwaith E-hyfforddi Cymru:
Gradd Sylfaen E-fasnach (gwaith ar y cyd rhwng 12 o Sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach)
KEF - Cronfa Datblygu Gwybodaeth:
Datblygwr modiwl E-fasnach SY104 a Diogelwch System Gradd Sylfaen;
Cymorth BBaCh Ffrwd 2: Cyfrifiadura Symudol; Cynhyrchu MTO.
Rhaglen Datblygu Staff; Creu DPP ac Academi Microsoft
Swyddfa Gartref/UFI - Prifysgol Diwydiant:
Cyflwyno cynigion, rheoli a datblygu’r ganolfan brawf ‘Life in the UK’. Gweinyddwyd 3,400 o brofion dinasyddiaeth
Rhaglen Gyflogadwyedd Shell – cefnogi ceiswyr gwaith a'r ganolfan waith a rhaglenni ag e-ddysgu.
WNL - Dysgu Rhwydwaith Cymru/Prifysgol Abertawe:
Cydgysylltydd E-ddysgu.
Cyfle Cymru (LlCC)/ECIC - Canolfan Arloesi E-fasnach:
Ymgynghorydd E-fasnach – gweithredu E-fasnach yn seiliedig ar ymyrraeth a chymorth i Fusnesau Bach a Chanolig; wedi cynorthwyo 32 o gwmnïau
ATEB/TMB - Technology means Business
Ymgynghorydd Busnes TGCh
WULF - Cronfa Ddysgu Undebau Cymru:
USDAW - Colourcare , Castell-nedd;
CWU - British Telecom (Abertawe, Caerdydd), Post Brenhinol (Abertawe);
Darparu canolfan dysgu TGCh a chwricwlwm wedi’i gynnal yn adeiladau’r sefydliadau
ESF – Cronfa Gymdeithasol Ewrop:
Rhaglen cefnogi TGCh;
SWISH – Canolbwynt Cymdeithas Gwybodaeth De Cymru (South Wales Information Society Hub)
ERDF – Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop:
Prosiect Telecoms (WEPE)
WIS/WDA – Cymdeithas Wybodaeth Cymru/Awdurdod Datblygu Cymru
Rhaglen ‘Window on Wales’
WDA/DTI/BT – Yr Adran Masnach a Diwydiant/British Telecom
Peilot arddangos rhwydwaith symudol.
SHC E-sgiliau
Peilot E Pasbort
TG Cymru/Prifysgol Abertawe
Cadeirydd Grŵp Diddordeb Arbennig Technoleg Uwch TG Cymru (IT Wales Advanced Technical Special Interest Group)
Cynllun Menter yr Ifanc
Ymgynghorydd Busnes