Phylip Brake
Darlithydd
1. BA (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant [Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, gynt]) (1977)
2. MA (Prifysgol Cymru) (1980)
3. Aseswr CGC (Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol) (NVQ) yn y Gymraeg (B32 a B33) (1994)
Cyswllt
Ebost: pjb@aber.ac.uk
Swyddfa: Ystafell 3.27,
P5,
Campws Pen-glais,
Prifysgol Aberystwyth,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 3UX
Rhif Ffon: 01970 622680
Cyfrifoldebau
- Cydgysylltu rhaglen Cymraeg i Oedolion cyffredinol y Brifysgol yng Ngheredigion
- Llywio cwricwlwm Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru
- Datblygu darpariaeth y Ganolfan ar Lefel 4 (hyfedredd) yn y FfCC
- Arwain a datblygu strategaeth e-ddysgu’r Ganolfan
- Ymgymryd â phrojectau ymchwil sy’n berthnasol i faes Cymraeg i Oedolion ynghyd ag arwain rhaglen ymchwil y Ganolfan
- Cydlynydd anabledd myfyrwyr rhan-amser yr Ysgol
Ymchwil
Dros y blynyddoedd rwyf wedi ysgrifennu llawer o gwrslyfrau dysgu Cymraeg ar bob lefel – o gyrsiau i ddechreuwyr pur hyd at gyrsiau gloywi iaith i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf – ond ieithyddiaeth, yn enwedig ieithyddiaeth gymdeithasegol neu sosioieithyddiaeth, yw fy mhrif ddiddordeb i. Mae fy mhrojectau ymchwil presennol yn cynnwys:
- astudiaeth sosioieithyddol o’r gwallau iaith llafar a wneir gan ddysgwyr Cymraeg o oedolion profiadol
- ymchwiliad i’r gydberthynas rhwng cyrhaeddiad dysgwyr Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg a wneir ganddynt tu allan i’r dosbarth
Bywgraffiad
Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, yn 1977 (sydd erbyn hyn yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), astudiais iaith lafar siaradwyr Cymraeg Plwyf Pencarreg yn sir Gaerfyrddin, gan ennill gradd MA (Prifysgol Cymru) yn 1980. Yn y cyfamser, gweithiwn fel ymchwilydd cynorthwyol i’r Bwrdd Gwybodau Celtaidd yng Nghaerdydd yn astudio iaith lafar siaradwyr Cymraeg Cymoedd y Rhondda.
Yn 1980, ymunais ag Adran Dysgu Cymraeg Prifysgol Cymru dan y diweddar Chris Rees (a adwaenir orau am ddatblygu’r dull wlpannaidd o ddysgu Cymraeg) fel tiwtor‑drefnydd cyrsiau Cymraeg i oedolion dwys ac uwch yn ne Ceredigion, gorllewin a gogledd sir Gaerfyrddin a sir Benfro. Lleolwyd y swydd ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, a gweithiwn yn agos iawn gyda’r hen Adran Efrydiau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Newidiodd natur fy swydd dros y blynyddoedd, ac erbyn hyn, mae arwain rhaglen ymchwil Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru yn rhan bwysig ohoni.
Arholi Allanol:
Rwy’n gweithio fel arholwr allanol i CBAC (Cymraeg i Oedolion) ar bob lefel, yn ôl y galw.
Profiad Sicrhau Ansawdd:
- Rwy’n cyfrannu at Bwyllgor Dysgu ac Addysgu yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes a Chanolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru.
- Cyn, ac wrth i’r Ganolfan gael ei sefydlu, roeddwn yn gyfrifol am lunio’r holl ddogfennaeth sicrhau ansawdd yn ymwneud â Chymraeg i Oedolion y gofynnir amdanynt gan Brifysgol Aberystwyth a chan cyrff cyllido a sicrhau ansawdd, gan gynnwys llawlyfrau i diwtoriaid a myfyrwyr, adroddiadau hunanasesu a chynlluniau datblygu ansawdd.
- Rwy’n dal i gyfrannu at lunio dogfennaeth sicrhau ansawdd y Ganolfan yn ogystal â chynhyrchu llawlyfrau tiwtoriaid a myfyrwyr y Ganolfan.
- Rwyf wedi arwain y Ganolfan yn ystod arolygiadau mewnol ac allanol
Gwaith Cydweithredol:
- Rwy’n cydweithio â CBAC ar fy mhroject ymchwil diweddaraf, sef ‘Astudiaeth o wallau iaith llafar dysgwyr Cymraeg profiadol’.
- Rwy’n aelod o Weithgor Ymchwil Cymraeg i Oedolion, sy’n pennu strategaeth ymchwil genedlaethol yn y maes ynghyd â gosod y blaenoriaethau ymchwil.
- Rwy’n cyfrannu at ffurfio polisïau a datblygiad y Ganolfan drwy f’aelodaeth o bwyllgorau allweddol y Ganolfan fel y Pwyllgor Rheoli, y Pwyllgor Dysgu ac Addysgu, y Tîm Marchnata a Gweithgor E‑ddysgu’r Ganolfan.
- Rwy’n aelod o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu’r YADGO.
- Rwy’n aelod o Banel Arholiadau Cymraeg i Oedolion CBAC ar y lefelau canlynol: (i) Canolradd ac Uwch a (ii) Hyfedredd. Prif waith y panel hwn yw datblygu’r maes llafur y maes ynghyd â llunio arholiadau.
Dolenni
Twitter: phylbrake
Skype: phylip.brake
Gwybodaeth Ychwanegol
Rwy’n un o gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, sy’n goruchwylio Canolfan Iaith a Threftadaeth Cenedlaethol Nant Gwrtheyrn ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Pentref anghyfannedd oedd Nant Gwrtheyrn yn yr 1970au yn sgil cau’r chwareli. Dechreuwyd ar y gwaith o atgyfodi ‘Y Nant’ a’i droi yn ganolfan iaith genedlaethol ar ddiwedd yr 1970au. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae datblygiadau diweddar yn cynnwys adnewyddu’r pentref yn llwyr a sefydlu canolfan breswyl unigryw ar gyfer dysgwyr Cymraeg o bob safon o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Cyhoeddiadau
Brake P. (1998) Cymraeg Graenus, Llandysul: Gwasg Gomer.
Brake P. (2000) Meithrin sgiliau ysgrifennu, yn Jones C. gol. (2001) Cyflwyno’r Gymraeg – Llawlyfr i Diwtoriaid, Llandysul: Gwasg Gomer, 101-21.
Brake, P. (1994) Sut ramadegau?, yn Barn, 380, 58-9.
Brake, P. (1994) Welsh in Three Months, Hugo.
Brake, P. (1995) Cwympo rhwng dwy stôl, yn Barn, 387, 44-5.
Brake, P. (1997) Welsh in Three Months, Hugo. (2il argraffiad)
Brake, P. (2005) An Introduction to Welsh, Lincom Europa.
Brake, P. (2009) Adolygiad o The Syntax of Welsh gan Robert D. Borsley, Maggie Tallerman a David Willis, Llundain: Routledge (388 tt.), Y Tiwtor, 6(4), Ebrill 2009, ar gael o http://www.ytiwtor.org/rhifyn6/newyddion/newyddion12.htm.
Brake, P. (2010) Adolygiad o The Celtic Languages gan Martin J. Ball a Nicole Müller (goln), Llundain: Routledge (785 tt.), Y Tiwtor, 13(4), ar gael o http://www.ytiwtor.org/rhifyn13/Adolygiad%20o%20%27The%20Celtic%20Languages%27.pdf.
Brake, P. (2010) Adroddiad ar y Seminar Blynyddol ar Gystrawen y Gymraeg, 5-6 Gorffennaf 2010, Y Tiwtor, 13(2), ar gael o http://www.ytiwtor.org/rhifyn13/newyddion/seminar_cystrawen.html.
Brake, P. (2011) Adolygiad o Celtic from the West, yn Cambria, 12(3), 57-9.
Brake, P. (2011) Adolygiad o Tense and Aspect in Informal Welsh gan Bob Morris Jones (2010) Berlin: de Gruyter Mouton (389 tt.), Y Tiwtor, 16(4), ar gael o http://www.ytiwtor.org/rhifyn16/adolygiad/adolygiad.html
Brake, P. (2011) Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau, Gwerddon, 7(22), ar gael o http://www.gwerddon.org/.
Brake, P. (2012) Adnabod gwallau iaith llafar dysgwyr Cymraeg profiadol, ar gael o http://www.ybont.org/.
Brake, P. (2013) Astudiaeth gychwynnol o wallau iaith llafar ymgeiswyr arholiadau Defnyddio’r Gymraeg CBAC (Lefel Canolradd ac Uwch), ar gael o http://www.gwerddon.org/. (yn y wasg)
Thomas, M., Brake, P., Cann, R., Evans, A., Hagen, G., Jephcote, M., G., Morgan, D., Neil, P., Pester, S., Taylor, C. a Woods, M. (2009) Partnerships in rural education: identification of research themes, Welsh Journal of Education, 14(2), 144-9