Siân Wynn Lloyd-Williams

Darlithydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Addysg ac Astudiaethau Plentyndod
BA Cyfathrebu (Prifysgol Cymru, Bangor),
BSc Seicoleg gyda Datblygiad Iaith a Phlentyn (Prifysgol Bangor),
MA Ieithyddiaeth (Prifysgol Bangor); wrthi’n cwblhau PhD mewn Addysg (Prifysgol Bangor) Photograph of Siân Wynn Lloyd-Williams.

Cyswllt

Ebost: sil22@aber.ac.uk
Swyddfa: Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes/ School of Education and Lifelong Learning Ystafell 1.32/Room 1.32 P5, Campws Penglais/Penglais Campus Prifysgol Aberystwyth/Aberystwyth University Aberystwyth SY23 3UX
Rhif Ffon: 8527

Cyfrifoldebau

Darlithydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Tiwtora a goruchwylio traethodau hir

Dysgu

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

Sgiliau Astudio                                                 

Seicoleg Dysgu a Meddwl                           

Plant Ifanc yn Dysgu                                      

Datblygiad Plant                                              

Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar            

Ymchwil

Mae ymchwil personol Siân yn cynnwys agweddau yn ymwneud â chaffaeliad iaith, dyslecsia,  asesu, cyfnewid cod a chynhaliaeth iaith. Mae’r gwaith gyda phlant gydag anhwylderau iaith yn ceisio ymdrin â’r angen i gynnig asesiadau i blant yn eu hiaith gyntaf wrth gynnig diagnosis o anhwylder penodol megis dyslecsia.  Mae’r diffyg adnoddau yn y maes hwn yn enfawr yn enwedig o fewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg. Pwrpas yr ymchwil hwn oedd ceisio adnabod y rhinweddau hynny o’r iaith Gymraeg  a all beri problemau penodol i blant gydag anhwylderau iaith, megis dyslecsia, er mwyn ein galluogi i adnabod unrhyw anhwylder posib yn gynharach (Thomas, E. M. & Lloyd, S. W., 2008). Mae hyn yn holl bwysig yng nghyd-destun yr iaith Gymraeg lle nad oes rhai plant (sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg) yn cael eu cyflwyno i’r iaith Saesneg tan blwyddyn 3. Gobeithir mynd i’r afael â rhai o ganlyniadau’r ymchwil hwn yn y dyfodol.

Tra’n gweithio yn y ganolfan dwyieithrwydd gyda’r grŵp ymchwil ar sail corpws roedd Siân yn edrych yn benodol ar gyfnewid côd mewn unigolion Cymraeg/Saesneg (Cymru), Sbaeneg/Saesneg (Miami) a Sbaeneg/Cymraeg (Patagonia). Yn ogystal cwblhaodd ddarn o ymchwil ar gyfnewid côd ymysg siaradwyr Cymraeg/Saesneg. Roedd yr ymchwil hwn yn gwneud defnydd o’r corpws helaeth o sgyrsiau Cymraeg/Saesneg a gasglwyd gan y grŵp. Canolbwyntiodd yr ymchwil hwn ar gymharu’r canran o Saesneg a ddefnyddiwyd gan unigolion gwahanol mewn sgyrsiau mwyafrifol Cymraeg a goblygiadau tymor byr a thymor hir ar gyfer cynhaliaeth iaith (Lloyd-Williams, S.W. & Deuchar, M., ar y gweill).

Mae ymchwil presennol Siân yn ymwneud â mesur sut mae plant dwyieithog Cymraeg/Saesneg yn caffael strwythurau cymhleth mewn iaith leiafrifol fel Cymraeg. Yn benodol mae’n edrych ar y system ateb yn Gymraeg, system gymhleth  lle mae gofyn i blant ddysgu a defnyddio system sydd yn cynnwys ffurfiau berfol ad-leisiol a di-adlais. Mae’r ymchwil hwn yn cynnwys data gan oddeutu 150 o blant dwyieithog Cymraeg/Saesneg sy’n ychwanegu ac yn ehangu ar ymchwil flaenorol ar strwythurau cymhleth yn yr iaith Gymraeg. Mae hyn yn ein galluogi i gysidro mewn mwy o fanylder theorïau gwahanol sy’n ymwneud â chaffaeliad iaith mewn cyd-destun dwyieithog a dysgwyr ail iaith. Yn ogystal mae’r ymchwil yn pwysleisio’r  angen ar gyfer asesiadau strwythuredig/profion ymyrraeth/adnoddau cynorthwyol er mwyn hybu plant Cymraeg/Saesneg o bob cefndir iaith i ddefnyddio systemau cymhleth yn gywir ac effeithiol.

Bywgraffiad

Bu Siân yn gweithio am gyfnod yn y byd cyfryngau wedi cwblhau gradd mewn Cyfathrebu ym Mangor yn 2001. Aeth yn ôl i’r brifysgol ym Mangor yn 2004 a graddio yn 2007 gyda gradd BSc mewn Seicoleg gyda Datblygiad Iaith a Phlentyn. Cwblhaodd M.A. mewn Ieithyddiaeth yn 2008 tra’n gweithio fel Ymchwilydd Cynorthwyol i’r Ganolfan Ymchwil ESRC i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor lle mae’n parhau i fod yn gymrawd ymchwil. Wedi hyn aeth ati i wneud doethuriaeth (mae yn y broses o gwblhau) yn yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei hymchwil doethurol yn edrych ar ‘ Effaith mewnbwn ieithyddol ar ddefnydd plant dwyieithog Cymraeg/Saesneg o’r System Ateb yn Gymraeg’. Dechreuodd Siân ei swydd bresennol fel darlithydd yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Medi 2012.

Dolenni

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwyniadau mewn Cynhadleddau a Seminarau

Lloyd-Williams, S.W. & Thomas, E.M. (2012). Bilingual acquisition of opaque structures in Welsh: the case of the Welsh answering system. I’w gyflwyno yng nghynadledd rhyngwladol British Association of Applied Linguistics, Prifysgol Southampton, Southampton, UK, 6-8 o Fedi.

Lloyd-Williams, S.W. & Thomas, E.M. (2012). “Do, oes, gwnaf, ia, wyt...? Adnabod yr angen i addysgu’r ffurfiau niferus o ‘ie’ a ‘na’ yn Gymraeg yn yr ysgol gynradd.” I’w gyflwyno yng nghynhadledd ryngwladol  Byd Plentyn - Gweithio Gyda’n Gilydd at Ddyfodol Gwell 27-29 Mehefin.

Lloyd-Williams, S.W. & Thomas, E.M. (2012). ‘"How do I answer thee? Let me count the ways!": bilingual acquisition of the multiple forms of the yes / no answering system in Welsh'. Cyflwynwyd mewn seminar ar gyfer y ganolfan ESRC  i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd , Prifysgol Bangor, 25ain o Fehefin..

Lloyd-Williams, S.W. & Thomas, E.M. (2012). ‘"How do I answer thee? Let me count the ways!": bilingual acquisition of the multiple forms of the yes / no answering system in Welsh'.. Cyflwynwyd yng nghynhadledd ‘Celtic Linguistics Conference'’ ym Mhrifysgol Rennes, Rennes, Llydaw, Ffrainc 22ain-23ain o Fehefin.

Lloyd-Williams, S.W. & Thomas, E.M. (2012). “Do, oes, gwnaf, ia, wyt...? Bilingual acquisition of the multiple forms of the ‘yes’/ ‘no’ answering system in Welsh”. Presented at Bilingual & Multilingual Interaction Conference in Bangor, North Wales 31March–1 April.

McAlister, K. T. & Lloyd, S. W. (2010) “Acquisition and education factors in the use of English in Welsh-English speech” Multilingual Individuals and Multilingual Societies. October 6 - 8, Hamburg, Germany.

McAllister, K.  &  Lloyd-Williams, S.W. (2009). Age-related factors affecting the use of English in Welsh-English speech. Presented at 7th International Symposium on Bilingualism in Utrecht 8-11 of July.

Lloyd, S. W. & Deuchar, M. (2009). The effect of input and medium of education on code-switching by Welsh-English bilinguals. Poster presented at 7th International Symposium on Bilingualism in Utrecht 8-11 of July.

Lloyd, S. W  & Thomas, E. M. (2009). Developing Language-appropriate task items. Presented at a one-day conference ‘Assessment, Management and Intervention for EAL Children with Speech, Language and Communication Disorders’. Newcastle University, England, 25th June 2009.

Lloyd, S.W. & Deuchar, M. (2009). Effaith mewnbwn ieithyddol a chyfrwng addysg ar gyfnewid cod ymysg siaradwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg (The effect of language input and medium of education on code-switching by Welsh-English bilinguals). Presented at a postgraduate conference ‘Beyond Boundaries 2009’. Bangor University, Wales, 22-23rd of January.

Lloyd, S.W. & Deuchar, M. (2009). The effect of language input and medium of education on code-switching by Welsh-English bilinguals. Presented at a seminar for the Bilingualism Centre in Bangor University, Wales on 19th January.

Thomas, E. M. & Lloyd, S. W. (2008). Dyslexia and the Welsh Language. Presented at British Dyslexia Association (BDA) International Conference, 'Dyslexia: Making Links'. Harrogate, UK, 27-29th of March.

Lloyd, S. W. & Thomas, E. M. (2007). Datblygu Prawf Rhagarweiniol ar gyfer plant dyslecsic sy’n siarad Cymraeg (Developing a Screening tool for Dyslexic children who speak Welsh). Presented at a seminar for the Bilingualism Centre in Bangor University, Wales on 8th October.

Lloyd, S. W. & Thomas, E. M. (2007). Datblygu Prawf Rhagarweiniol ar gyfer plant dyslecsic sy’n siarad Cymraeg (Developing a Screening tool for Dyslexic children who speak Welsh). Presented at Bangor Dyslexia Unit One day conference ‘Dyslexia - A Matter of Words’. Bangor University, Wales, 9th June.

Gweithgareddau eraill

  • Cymrawd Ymchwil i’r Ganolfan Ymchwil ESRC i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd.
  • Ymgynghorwr i Gwasg Gomer ar gyfer geiriadur termau newydd sydd ganddynt ar y gweill. Asesu a rhoi adborth ar y defnydd priodol/amhriodol o dermau posib ym maes Seicoleg.
  • Prosiect gan GL Assessment - yn cynorthwyo gydag asesu priodolrwydd cyfieithiad o brawf ‘Cognitive Abilities Test 4’  i’r Gymraeg

Cyhoeddiadau

Lloyd-Williams, S.W., Thomas, E.M. & Young, N. (ar y gweill/in preparation). Adnabod camgymeriadau llythrennedd cyffredinol ymysg plant dwyieithog Cymraeg/Saesneg : Yr angen i gefnogi plant o gartrefi di-Gymraeg. (I’w gyhoeddi yn Gwerddon).

Lloyd-Williams, S.W. & Deuchar, M. (ar y gweill/in preparation). Age-related factors affecting the use of English in Welsh-English speech

Deuchar, M., Lloyd, S. W. & Parafita, M. C. (2008). Bilingualism in Wales: Bangor Centre for Research on Bilingualism. Interpret Wales, 9, p.14-15.

Deuchar, M., Lloyd, S. W. & Parafita, M. C. (2008). Dwyieithrwydd yng Nghymru: Canolfan dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd Bangor. Dehongli Cymru, 9, t.14-15.

Thomas, E. M. & Lloyd, S. W. (2008). Developing Language-appropriate task items for identifying literacy difficulties in Welsh-speaking children. Dyslexia Review, 20(1), pp 4-9.