Siôn Meredith

Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru
Gradd Anrhydedd BA mewn Cymraeg Welsh (Bangor, 1987) Photograph of Siôn Meredith.

Cyswllt

Ebost: stm@aber.ac.uk
Swyddfa: Ystafell 3.22, P5,Campws Pen-glais, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UX
Rhif Ffon: 01970 628599

Cyfrifoldebau

Cyfrifol am reolaeth ac arweiniad strategol y Ganolfan Cymraeg i Oedolion; rheoli a datblygu tîm o staff ledled Canolbarth Cymru yn ogystal â rheoli partneriaethau gyda darparwyr eraill yn rhanbarth; sicrhau darpariaeth eang o gyrsiau Cymraeg i Oedolion o ansawdd uchel yn y gymuned, ar gyfer y teulu a’r gweithle. Cynrychioli’r Ganolfan ymhlith cyfranddeiliaid allanol, ac adrodd ar ganlyniadau i gyrff cyllido

Proffil

Goruchwylio sicrhau ansawdd yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, ac arsylwi sesiynau dysgu.

Bywgraffiad

Priod gyda dau o blant, ac yn byw yn ardal Aberystwyth ers 1987. Gradd BA Anrhydedd Cymraeg (Bangor, 1987). Mwynhau mynd ar gefn beic

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwirfoddoli gyda’r elusen Tearfund, ac chymryd rhan ym mywyd Eglwys Santes Fair, Aberystwyth, gan gynnwys pregethu ar rai Suliau. Darlledu eitemau ‘Dweud eich Dweud’ ar BBC Radio Cymru. Wedi cwblhau gwerthusiad ar raglen HIV yn India (gwirfoddoli yn y gweithle) i Fanc Standard Chartered, 2005.

Cyhoeddiadau

Teithiau Car (Cyfres Hwylio ‘Mlaen, Y Lolfa, 1994). ISBN 0862433274