Cyrsiau Israddedig

Croeso i'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes a'n rhaglen radd Astudiaethau Plentyndod. Rydym yn adran sefydledig, sydd wedi bod yn cynnig rhaglenni astudio symbylol ac arloesol am gan mlynedd a mwy. Aberystwyth oedd y brifysgol gyntaf yn Lloegr a Chymru i gynnig gradd anrhydedd mewn Addysg. Mae Addysg yn parhau i gael ei astudio yn Aberystwyth mewn graddau anrhydedd sy'n cyfuno â phwnc arall.  Gan barhau â'r traddodiad hwn o ddysgu cyffrous, rydym wedi ehangu ein cylch gwaith dysgu i gynnwys amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â phlentyndod, a bellach mae'n bleser gennym gynnig ein rhaglen anrhydedd sengl mewn Astudiaethau Plentyndod.

Addysg

Bydd gennych eisoes ddigonedd o brofiad o gael eich addysgu ond rydych yn llai tebygol o fod wedi cael cyfleoedd i astudio'r pwnc addysg. Mae ansawdd y dysgu yn arbennig o bwysig i'n cymdeithas, i'r economi ac i bob un ohonom fel unigolion. Mae addysg hefyd yn bwnc academaidd, a chaiff ei astudio mewn prifysgolion yn bennaf yn hytrach na mewn ysgolion neu golegau. Bydd cwrs astudio mewn Addysg yn eich cyflwyno i amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd a bydd hefyd yn tynnu ar eich profiadau personol o addysg, grŵp cyfoedion a theulu. Os hoffech fod yn athro rhywbryd yn y dyfodol, mae cwrs Addysg israddedig yn fan cychwyn ardderchog. Fodd bynnag nid oes raid i chi fod yn anelu at yrfa ym myd addysg i fanteisio ar gwrs o'r fath.

Astudiaethau Plentyndod

Mae'r BA Astudiaethau Plentyndod yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar blentyndod a'r effeithiau hanfodol y gall y rhain eu cael ar ddatblygiad diweddarach. Mae'r rhaglen radd yn tynnu ar amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys cymdeithaseg, seicoleg ac astudiaethau addysgol, i ddarparu dealltwriaeth ddyfnach o flynyddoedd plentyndod. Os oes gennych ddiddordeb mewn twf, datblygiad a dysg plentyn o'i enedigaeth i'w arddegau, bydd y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth fanwl am y datblygiad chwilfrydig hwn.

Ar y ddau gynllun cewch gyfle i gyfuno pynciau damcaniaethol â phrofiad ymarferol a datblygu'r arbenigedd academaidd a phroffesiynol sy'n angenrheidiol i weithio â phlant. Trwy astudiaeth ddisgybledig mewn amrywiaeth o ffyrdd, rydym yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu'r gallu i feddwl yn argyhoeddiadol a'r gallu i fynegi syniadau'n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig, rhinweddau a werthfawrogir gan amrywiaeth o ddarpar gyflogwyr.

Gan gyfuno dulliau gwreiddiol o ddysgu ac asesu ag awyrgylch astudio cefnogol, a lleoliad arbennig yn un o ardaloedd harddaf y DU, bydd astudio gradd â ni yn brofiad addysgol heb ei ail.