Astudiaethau Plentyndod
Gofynion Mynediad
Y gofynion mynediad yw 2240 pwynt UCAS: byddwn hefyd yn derbyn 24 yn y Diploma Bagloriaeth Ryngwladol a 65% yn y Fagloriaeth Ewropeaidd. Gall myfyrwyr hŷn ofyn i’r Ysgol hefyd ystyried profiad perthnasol arall.
Strwythur y Cwrs
Hyd amser-llawn y cwrs yw 3 blynedd ond mae modd astudio ar sail ran-amser. Yn ystod y cwrs, byddwch chi’n astudio cyfuniad o fodiwlau 'craidd' a modiwlau 'nad ydynt yn rhai craidd', gan eu dewis o blith y modiwlau sydd ar gael. Caiff y modiwlau eu hamlinellu isod, gyda disgrifiad byr o’r modiwlau craidd.
Blwyddyn 1
Polisïau a Materion mewn Addysg
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i bolisïau a materion addysgol yng Nghymru a Lloegr. Mae’n gosod polisïau addysgol presennol yng nghyd-destun newidiadau a datblygiadau addysgol hanesyddol, gan gyflwyno rhai o’r prif faterion addysgol cyfoes. Caiff y modiwl hwn ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
Child Development
Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i’r dulliau o astudio plant, arferion gofal plant a seicoleg datblygiad. Mae’r modiwl hefyd yn trafod y ddadl natur yn erbyn magwraeth, a datblygiad agweddau hiliol a rhywedd mewn pobl ifanc.
Young Children Learning
Byddwch yn edrych ar yr hyn sy’n dylanwadu ar ddatblygiad plentyn yn y cartref, yn y gymuned ac yn y grŵp cyn ysgol. Mae’r modiwl yn trafod y trawsnewid o’r cartref neu’r grŵp chwarae i’r ysgol, ac yn ystyried natur yr amgylchedd dysgu a’i berthnasedd i ddatblygu sgiliau. Dyma’r modiwlau dewisol:
- Gweithio drwy Chwarae
- Chwarae ar gyfer Deallusrwydd Emosiynol
- Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar: Egwyddorion ac Ymarfer
- Sgiliau Astudio
- Cyflwyniad i Weithio gyda Grwpiau
Blwyddyn 2
Psychology of Learning and Thinking
Bwriad y modiwl hwn yw ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol y myfyrwyr o’r prif ddamcaniaethau am y ffordd yr ydym yn meddwl a dysgu. Cewch eich annog i fyfyrio ar eich arddull dysgu eich hun a’i chysylltu â’r cysyniadau allweddol yn y maes.
Literacy in Young Children
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu iaith a llythrennedd mewn plant ifanc. Mae’n ystyried y defnydd o iaith a llythrennedd yn y rhyngweithio rhwng athro a phlentyn ifanc a swyddogaeth llythrennedd mewn diwylliannau amrywiol.
Research Methods
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i ystod o ddulliau ymchwil a ddefnyddir yn gyffredinol mewn ymchwil addysgol. Mae hefyd yn ceisio datblygu eich ymwybyddiaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â dewisiadau methodolegol gwahanol ac yn eich helpu i gynllunio prosiect ymchwil ar raddfa fach. Dyma’r modiwlau dewisol:
- Amrywioldeb Diwylliannol mewn Addysg
- Addysg Ddwyieithog
- Gweithio gyda Phlant
- Dysgu yn y Gwaith
- Gwneud Synnwyr o'r Cwricwlwm
Blwyddyn 3
Critically reflecting and evaluating learning and skills
Yn y modiwl hwn fe’ch anogir i fyfyrio ar, a gwerthuso’r hyn yr ydych yn ei ddysgu, a thrwy’r gwerthusiad hwnnw, fe’ch anogir i ystyried cwestiynau cyffredinol ynghylch sut mae asesu yn cyfrannu at y broses addysgol. Beth sydd angen i asesiad ei ddarganfod; ac er budd pwy? Mae’r modiwl yn ymdrin â’r ystod lawn o asesu, o asesu gwybodaeth yn y dosbarth i systemau asesu ar raddfa genedlaethol.
Traethawd Estynedig Mawr
Gyda chyfarwyddyd tiwtor byddwch yn paratoi astudiaeth hwy am faes sydd o ddiddordeb penodol i chi. Bydd pwnc yr astudiaeth yn myfyrio ar y meysydd sydd o ddiddordeb i chi a bydd yn golygu darllen yn eang a dysgu sy’n seiliedig ar ymholiadau. Gallwch ddewis ysgrifennu eich traethawd estynedig yn Gymraeg.
Mathematical Development in the Early Years
Lluniwyd y modiwl hwn i ddatblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol y myfyrwyr o ddatblygiad mathemategol plant ifanc a’i oblygiadau ar gyfer arferion da wrth ddysgu mathemateg i blant ifanc. Dyma’r modiwlau dewisol:
- Plant a'r Cyfryngau
- Anghenion Addysgol Arbennig
- Iechyd ac Addysg
Bydd modd i chi hefyd ddewis modiwlau o adrannau eraill yn y Brifysgol os mynnwch.