Addysg
Cynlluniau Gradd
Astudir addysg mewn graddau anrhydedd gyda phwnc arall. Mae tri math o radd anrhydedd, yn amodol ar y cyfrannau a roddir i'r ddau bwnc.
Addysg Prif bwnc (dau draean) ar gael gyda'r is-bynciau canlynol (traean):
| Pwnc | Cod y Cynllun |
|---|---|
| French | X3R1 |
| Human Geography | X3L7 |
| German | X3R2 |
| History | X3V1 |
| Mathematics | X3G1 |
| Spanish | X3R4 |
Addysg ar y cyd (hanner) ar gael gyda'r pynciau canlynol (hanner):
| Pwnc | Cod y Cynllun |
|---|---|
| Art History | VX33 |
| Cymraeg | QX53 |
| Drama | WX43 |
| English | QX33 |
| Film and Television Studies | WX63 |
| Fine Art | WX13 |
| French | RX13 |
| German | RX23 |
| History | VX13 |
| Human Geography | LX73 |
| Information Studies | PX13 |
| Gwyddeleg Iaith a Llên | QXM3 |
| Irish Language and Literature | QX5H |
| Mathematics | GX13 |
| Museum and Gallery Studies | PX19 |
| Performance Studies | XW34 |
| Physical Geography | FX83 |
| Psychology | CX83 |
| Spanish | RX43 |
| Statistics | GX33 |
| Welsh | QX53 |
| Welsh History | XF3 |
Mae Addysg Is-bwnc (traean) ar gael gyda'r Prif bynciau canlynol (dau draean):
| Pwnc | Cod y Cynllun |
|---|---|
| Environmental Earth Studies | F6X3 |
| French | R1X3 |
| German | R2X3 |
| History | V1X3 |
| Human Geography | L7X3 |
| Marketing | N5X3 |
| Mathematics | G1X3 |
| Physics | F3X3 |
| Physical Geography | F8X3 |
| Spanish | R4X3 |
Gofynion Mynediad
Y gofynion mynediad cyffredinol yw 280 pwynt UCAS, yn ogystal â graddau penodol ar gyfer y pwnc arall pan fo'n briodol. Croesewir ceisiadau ar sail: GNVQ Uwch, Diploma Cenedlaethol BTEC, Tystysgrif Gadael Iwerddon (Lefel Uwch), Tystysgrif Addysg yr Alban (Gradd Uwch), Mynediad a myfyrwyr hŷn. Yn draddodiadol rydym wedi denu nifer o fyfyrwyr hŷn i'n cynlluniau gradd, sy'n dod â chyfoeth o brofiad i'w rannu'n ffurfiol ac anffurfiol â'u cyd-fyfyrwyr. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau a wneir ar sail cymwysterau mewn gwledydd eraill yn ogystal â'r rhai a nodir uchod.
Strwythur y Cwrs
Hyd amser-llawn y cwrs yw 3 blynedd, ond mae hyblygrwydd i astudio ar sail ran-amser. Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio cyfuniad o fodiwlau craidd, sy'n orfodol, a modiwlau nad ydynt yn fodiwlau craidd, a byddwch yn dewis y rhain o blith y modiwlau a gynigir. Caiff y modiwlau eu hamlinellu isod, gyda disgrifiad byr o'r modiwlau craidd, a restrir mewn ffont trwm.
Blwyddyn 1
Polisïau a Materion mewn Addysg
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i bolisïau a materion addysgol yng Nghymru a Lloegr. Mae’n gosod polisïau addysgol presennol yng nghyd-destun newidiadau a datblygiadau addysgol hanesyddol, gan gyflwyno rhai o’r prif faterion addysgol cyfoes. Caiff y modiwl hwn ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
Child Development
Caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i’r dulliau o astudio plant, arferion gofal plant a seicoleg datblygiad. Mae’r modiwl hefyd yn trafod y ddadl natur yn erbyn magwraeth, a datblygiad agweddau hiliol a rhywedd mewn pobl ifanc.
Young Children Learning
Byddwch yn edrych ar yr hyn sy’n dylanwadu ar ddatblygiad plentyn yn y cartref, yn y gymuned ac yn y grŵp cyn ysgol. Mae’r modiwl yn trafod y trawsnewid o’r cartref neu’r grŵp chwarae i’r ysgol, ac yn ystyried natur yr amgylchedd dysgu a’i berthnasedd i ddatblygu sgiliau.
Blwyddyn 2
Psychology of Learning and Thinking
Bwriad y modiwl hwn yw ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol y myfyrwyr o’r prif ddamcaniaethau am y ffordd yr ydym yn meddwl a dysgu. Cewch eich annog i fyfyrio ar eich arddull dysgu eich hun a’i chysylltu â’r cysyniadau allweddol yn y maes.
- Llythrennedd mewn Plant Ifanc
- Dulliau Ymchwil
- Amrywioldeb Diwylliannol mewn Addysg
- Addysg Ddwyieithog
- Gweithio gyda Phlant
- Dysgu yn y Gwaith
- Gwneud Synnwyr o'r Cwricwlwm
Blwyddyn 3
Critically Reflecting and Evaluation Learning and Skills
Yn y modiwl hwn fe’ch anogir i fyfyrio ar, a gwerthuso’r hyn yr ydych yn ei ddysgu, a thrwy’r gwerthusiad hwnnw, fe’ch anogir i ystyried cwestiynau cyffredinol ynghylch sut mae asesu yn cyfrannu at y broses addysgol. Beth sydd angen i asesiad ei ddarganfod; ac er budd pwy? Mae’r modiwl yn ymdrin â’r ystod lawn o asesu, o asesu gwybodaeth yn y dosbarth i systemau asesu ar raddfa genedlaethol.
- Plant a'r Cyfryngau
- Traethawd Estynedig Mawr
- Datblygiad Mathemategol yn y blynyddoedd cynnar
- Anghenion Addysgol Arbennig
- Iechyd ac Addysg
- Myfyrio beirniadol