Proffiliau a Barn y Myfyrwyr

Peidiwch â chymryd ein gair ni'n unig – dyma farn rhai o'n cynfyfyrwyr a'n myfyrwyr presennol ynglŷn ag astudio yma

Mae Simon Black yn fyfyriwr Anrhydedd Cyfun sy'n mynd i mewn i'w drydedd flwyddyn o astudio Drama ac Addysg. Mae ei fodiwlau Addysg wedi cynnwys Llythrennedd mewn Plant Ifanc, Amrywiaeth Diwylliannol a Phlant Ifanc yn Dysgu.


“Fel y gwelwch mae amrywiaeth gwirioneddol o ddewisiadau, sydd wedi bod o gymorth mawr i mi. Mae'r holl ddarlithoedd wedi'u cynllunio'n dda ac maent yn addysgiadol iawn, ac wedi'u cefnogi gan daflenni a chyflwyniadau gweledol da.


Mae'r llyfrgell yn lle ardderchog i eistedd a gweithio: yn wir, er nad yw'r llyfrau Drama yno, rwy'n gwneud fy ngwaith cwrs Drama yno hefyd yn ogystal â'm hastudiaethau Addysg, oherwydd yr awyrgylch hamddenol braf. Ar ôl i chi ffeindio'ch ffordd o amgylch y llyfrgell mae'n hawdd iawn: ond os ydych chi eisiau cymorth i ddod o hyd i lyfr penodol mae'r Llyfrgellwyr yn glên iawn a bob amser yn barod i'ch helpu”


Felly a fyddai Simon yn annog pobl eraill i astudio yn yr Ysgol Addysg?


“Rwyf wrth fy modd â'r adran. Mae'n grêt: bob bore dydd Mawrth mae gen i ddarlith a seminar rhwng 9 a 11, a bob wythnos rwy'n cerdded trwy'r Hen Goleg ac mae'r staff yn edrych fel pe baent yn fodlon iawn eu byd. Os ydych chi'n teimlo ychydig yn isel, bydd yr holl wynebau siriol yn codi'ch calon. Mae pob myfyriwr yn cael tiwtor personol sy'n aros gyda chi trwy gydol eich cwrs. Os oes gennych gwestiynau academaidd neu broblem gartref hyd yn oed, mae drysau'r darlithwyr ar agor bob amser. Byddwn yn bendant yn argymell y lle i ffrind. Rwy'n gobeithio gwneud fy nghymhwyster TAR hyfforddiant athrawon yn Aberystwyth; mae wedi bod yn brofiad mor gadarnhaol”


Graddiodd Awel Owen yn y Gymraeg ac Addysg. Dyma rai o'i sylwadau hi am yr amser a dreuliodd yn Aberystwyth a'r Ysgol.


Pam dewis Aberystwyth?

“Dewisais ddod i Aberystwyth oherwydd rwy'n byw o fewn awr i'r lle, felly roedd yn ddigon agos i gartref ond hefyd yn ddigon pell i mi fod yn annibynnol - cyfuniad perffaith.”


A ydych wedi cael materion/profiadau y byddech yn barod i'w rhannu er mwyn helpu i gyfarwyddo ac ysbrydoli myfyrwyr eraill?


“Darganfyddais fy mod yn disgwyl fy ail blentyn yn ystod fy ngradd felly penderfynais gymryd blwyddyn allan a dychwelyd ar gyfer fy mlwyddyn olaf. Roedd y brifysgol yn dda iawn am y sefyllfa a gwnaethant gadw mewn cysylltiad trwy'r cyfnod yr oeddwn i ffwrdd, a wnaeth helpu i leddfu fy ngofidiau.”


Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyriwr sy'n astudio eich pwnc yn y brifysgol nawr?


“Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio i'r eithaf ar eich amser yno - a gwthiwch eich hun i weithio'n galed, yn arbennig yn y flwyddyn gyntaf. “


Graddiodd Nicholas Christian gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Addysg a Daearyddiaeth Ddynol. Aeth ymlaen i astudio ar gyfer TAR yn Aberystwyth cyn mynd ymlaen i ddysgu. Mae'n egluro pa gyngor y byddai'n ei roi i fyfyriwr hŷn sy'n astudio gradd:

“Fel myfyriwr hŷn ni ddylech fod ofn rhoi cynnig arni. Mae gorfod gadael gwaith a gwneud newidiadau yn frawychus ond bydd yn werth y cwbl pan fyddwch mewn sefyllfa lle'r ydych yn gwneud gwahaniaeth. Hefyd, mae Aberystwyth yn gymuned dda a diogel i wneud newidiadau o'r fath a'u mwynhau, beth bynnag fo'ch oedran. Gwnaeth y ffaith fod gen i lawer o brofiad bywyd fy helpu i gael y radd dosbarth cyntaf a gyflawnais yn y pen draw.”

Graddiodd Linsey Pope â gradd II (i) mewn Daearyddiaeth ac Addysg Anrhydedd Cyfun. Mae hi'n fyfyrwraig leol gan ei bod wedi cael ei magu yn yr ardal. Dyma ei hatebion i'r cwestiynau am y gydran Addysg o'i chwrs:

“Roedd awyrgylch cyfeillgar yn y darlithoedd a'r seminarau, ac roedd hi'n hawdd dilyn deunydd y cwrs oherwydd roedd wedi'i drefnu'n dda ac wedi'i gyflwyno'n dda. Roedd Llyfrgell yr Hen Goleg yn lle hyfryd iawn i astudio ynddo.”


Felly a fyddai Linsey yn argymell i rywun astudio yma?


“Yn bendant : darlithwyr cyfeillgar, agos-atoch, staff cefnogol iawn, ac adran drefnus ac effeithlon sy'n cynnig modiwlau diddorol ac amrywiaeth dda o asesiadau. Rydych ger y môr, ac yn gallu dianc yn hawdd i gefn gwlad, ond mae digon o fywyd cymdeithasol i'ch difyrru.”