Gwybodaeth am yr Ysgol
Gyda’n lleoliad ar Gampws deniadol Penglais yn edrych dros Fae Ceredigion, gallwn gynnig amgylchedd unigryw ar gyfer astudio ac ymgymryd ag ymchwil.
Mae’n staff, sy’n weithgar mewn ymchwil academaidd a pholisi ac fel ymgynghorwyr, yn cynnig cyrsiau cyffrous, mewnwelediad cyfoes a datrysiadau cadarnhaol i ofynion newidiol ein byd i fyfyrwyr, gwneuthurwyr polisi a’r gymuned fusnes.
Mae ein hystod ddeniadol o raglenni israddedig, gyda’r pwyslais ar addysgu grwpiau bach, yn uchel ei pharch ymysg myfyrwyr a chyflogwyr. Mae’r rhain yn cyflenwi’r sgiliau craidd a throsglwyddadwy sy’n hanfodol i sicrhau llwyddiant. Mae ansawdd ein haddysgu yn sicrhau cyfraddau cwblhau uchel a pherthnasedd sydd wedi arwain at lefelau uchel o foddhad myfyrwyr ynghyd â chyflogadwyedd.