Gwasanaethau Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym ni’n datblygu’r gwasanaethau canlynol:
- Trydar byw mewn digwyddiadau mawr megis Diwrnodau agored, cyfarfodydd ar draws y Brifysgol gyfan, siaradwyr gwadd. Dylid trefnu hyn drwy’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol (yn anffodus ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn Saesneg yn unig)
- Cymorth i ddysgu technegau sylfaenol Twitter, a theclynnau Twitter; megis Hootsuite, Twitpic ac Exact Target (CoTweet yn flaenorol). Dylid trefnu hyn drwy’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol.
- Byddwn yn trydar gwybodaeth berthnasol am y Brifysgol megis newyddion a straeon am ymchwil a materion sydd o ddiddordeb i fyfyrwyr a staff. Dylid ebostio ceisiadau i facebook@aber.ac.uk gyda’r trydar dwyieithog. Mae’n bosibl y byddwn yn newid eich trydar cyn ei anfon.
- Os ydych chi’n aelod o staff neu’n gynrychiolydd adran sy’n ystyried sefydlu cyfrif Twitter, cysylltwch â’r Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol am gyngor cyffredinol a sgwrs anffurfiol.
- Rydym yn ymwybodol fod llawer o aelodau o staff yn gweithredu fel llysgenhadon naturiol i’r Brifysgol. Rydym ni’n awyddus i lunio dogfen yn cynnwys yr holl ‘Drydarwyr’ academaidd a phroffesiynol sy’n gweithio i Brifysgol Aberystwyth ac sy’n defnyddio eu cyfrifon twitter i gyfathrebu eu hymchwil a rhannu ymarfer da. Os ydych chi’n defnyddio twitter mewn cyd-destun proffesiynol ac yn dymuno rhannu eich enw Twitter a chael eich cynnwys yn y ddogfen hon, ebostiwch facebook@aber.ac.ukgyda’ch enw defnyddiwr Twitter, eich enw llawn, eich adran a rôl yn y Brifysgol. Yna fe fyddwch yn ymddangos yn y ddogfen hon.
- Os dymunwch i'ch digwyddiad / hysbysuad gael ei lwytho ar safleoedd Cyfryngau Cymdeithaol a reolir gan y Brifysgol, gyrrwch ebost i facebook@aber.ac.uk. Rydym yn gwerthfawrogi derbyn gwybodaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Dylir adrannau sydd eisiau datblygu presenoldeb ar Gyfryngau Cymdeithasol yrru ebost i facebook@aber.ac.uk am wybodaeth a chefnogaeth
- Os ydych yn cael problemau neu os oes mater sydd angen sylw brys yn codi ar safle Cyfryngau Cymdeithasol, gyrrwch e-bost i faebook@aber.ac.uk am gyngor a chefnogaeth