BSc Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff C600
- BSc newydd ac arloesol
- Canolbwyntio ar sylfaen wyddonol chwaraeon ac ymarfer corff
- Gwaith ymarferol mewn labordai sy’n llawn dop o offer
- Profiad gwaith a chymwysterau i baratoi ar gyfer gyrfa
- Dulliau modern o ddysgu ac addysgu
- Cefnogaeth i ddatblygu sgiliau allweddol
- Cyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff rhagorol
Strwythur y Radd
Mae strwythur y radd yn un modiwlar ac yn dilyn tair thema. Mae'r thema gyntaf yn ymwneud ag astudio’r disgyblaethau gwyddonol craidd, sef seicoleg, ffisioleg a biomecaneg. Byddwch yn astudio pob un o’r rhain yn ystod y ddwy flynedd gyntaf ac yn y flwyddyn olaf gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau arbenigol. Mae'r ail thema yn ymwneud ag astudiaethau cymhwysol. Yn y modiwlau hyn, byddwch yn mynd i seminarau, yn cwrdd â siaradwyr gwadd, yn dilyn cyrsiau byr pedair wythnos, ac, yn bwysicaf oll, yn datblygu dealltwriaeth ddofn o bwnc o'ch dewis. Felly os oes gennych ddiddordeb mewn camp megis pêl-droed, gallwch ddewis hyn a defnyddio eich gwybodaeth i gynhyrchu ffeil ar Wyddoniaeth Pêl-droed. Neu efallai bod gennych chi ddiddordeb mewn ymarfer corff a heneiddio, neu ddosbarthiadau stiwdio, neu bêl-rwyd. Eich dewis chi fydd hyn. Ymchwil yw’r drydedd thema. Byddwch yn astudio modiwlau ar ddulliau ymchwil, trin a dadansoddi data, ac yn eich blwyddyn olaf byddwch yn gwneud prosiect ymchwil.Dysgu ac Addysgu
Yn ogystal â darlithoedd a seminarau, mae’r cwrs yn cynnwys llawer o weithgareddau sydd â’r myfyrwyr yn ganolog iddynt, megis prosiectau, gweithdai, sesiynau datrys problemau a thiwtorialau. Cynhelir dosbarthiadau mewn labordai yn rheolaidd a byddwch yn dod yn fedrus wrth ddefnyddio offer gwyddonol ar gyfer profi soffistigedig ar ffitrwydd a dadansoddi symudiadau. Cefnogir pob modiwl gan adnoddau electronig i’ch helpu i astudio y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Caiff sgiliau allweddol eu hintegreiddio yn ofalus yn y cwricwlwm er mwyn datblygu eich gallu i roi cyflwyniadau, dadansoddi data, llunio adroddiadau, ysgrifennu’n academaidd a gweithio mewn grwpiau. Mae’r asesu yn seiliedig ar gyfuniad o waith cwrs, adroddiadau ac arholiadau.Adnoddau
Mae gan yr adran labordai arbenigol llawn adnoddau. Yn y maes biomecaneg, mae fideo digidol sy’n seiliedig ar gyfrifiaduron yn rhoi modd cael dadansoddiadau soffistigedig o symud a dynamomedrau yn rhoi modd mesur grymoedd. Mewn ffisioleg, mae dadansoddwyr cardiofasgwlaidd, anadlu a metabolig yn monitro’r corff wrth iddo ymarfer. Mewn seicoleg, gellir defnyddio amserwyr ymateb, monitorau cyfradd curiad y galon ac anadlu wrth astudio straen. Mae siambr amgylcheddol dynol yn caniatáu astudiaethau arbennig ar adwaith mewn amgylcheddau poeth, oer neu laith. Mae canolfan chwaraeon y Brifysgol yn cynnig cyfleusterau rhagorol gan gynnwys ystafelloedd ffitrwydd, caeau chwarae helaeth, pwll nofio, neuadd chwaraeon, a chae pob tywydd. Mae nifer o glybiau chwaraeon y brifysgol yn cynnig campau cystadleuol a gweithgareddau hamdden.Yn y llyfrgell mae casgliad eang o lyfrau a chylchgronau, heb sôn am y cyfleusterau cynhwysfawr sydd i’w cael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae systemau TG pwerus yn darparu’r holl feddalwedd angenrheidiol a gall myfyrwyr ddefnyddio’r 600 o gyfrifiaduron sydd o amgylch y campws, gan gynnwys yn y neuaddau preswyl.
Gyrfaoedd
Mae gradd mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn agor ystod eang o ragolygon yn y dyfodol. Mae cyfleoedd mewn sefydliadau iechyd masnachol, mewn chwaraeon elitaidd, mewn hybu ymarfer corff ac, ar ôl gwneud TAR, mewn addysgu. Ceir datblygu cryf ar feddwl gwyddonol, dadansoddol, ynghyd â sgiliau gweithio fel tîm, a hyn oll yn golygu bod graddedigion mewn sefyllfa dda i fynd i yrfaoedd llai penodol megis rheoli, gwerthu a marchnata. Fel arfer, mae tua hanner yr holl fyfyrwyr yn mynd ymlaen i yrfaoedd nad ydynt yn rhai chwaraeon, gan fod y radd wedi’i phrofi i fod yn ffordd ardderchog, diddorol ac ysgogol i astudio gwyddoniaeth ac ennill BSc.Mae datblygiad gyrfa wedi’i gynnwys yn y cwrs drwy’r tair blynedd gyfan. Mae pob myfyriwr yn cwblhau modiwl o brofiad gwaith ac yn y llwybr Astudiaethau Cymhwysol, gallwch ennill dau gymhwyster galwedigaethol defnyddiol o ddetholiad o ddyfarniadau hyfforddi, ffitrwydd neu stiwdio, cymorth cyntaf, achub bywyd ac ati.