Cyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol i fyfyrwyr o’r prif agweddau allweddol sydd ynghlwm â’r gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff sef: biomecaneg, ffisioleg a seicoleg, ynghyd â gwerthfawrogiad sylfaenol o agweddau perthnasol sy’n sail i wyddorau ffiseg, cemeg a bioleg.
Darparu cyfleoedd i fyfyrwyr arbenigo mewn pynciau damcaniaethol a chymhwysol dethol.
Datblygu dysgwyr annibynnol ac adfyfyriol sy’n gymwys mewn ystod o sgiliau sy’n benodol i’r pwnc.
Datblygu dealltwriaeth feirniadol o bynciau cymhwysol gan werthfawrogi materion amlddisgyblaethol a chyd-destunol.
Gwella cyflogadwyedd myfyrwyr drwy ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a chael y cyfle i wneud profiad gwaith.
Deilliannau Dysgu’r Radd
Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd myfyrwyr yn gallu: Dangos sylfaen gadarn o wybodaeth a dealltwriaeth mewn biomecaneg, ffisioleg a seicoleg.
Dangos lefel uwch o wybodaeth a dealltwriaeth o theorïau ac egwyddorion cymhleth mewn meysydd dethol.
Defnyddio gwybodaeth yn feirniadol mewn sefyllfaoedd a phroblemau cymhleth yng nghyd-destunau cymhwysol chwaraeon ac ymarfer corff drwy ddatblygu portffolio o ddeunydd ar bwnc o hunanddewisiad.
Casglu, cyfosod a gwerthuso tystiolaeth ymchwil, gan gynnwys data meintiol a’i ddadansoddi’n ystadegol.
Llunio prosiect ymchwil annibynnol.
Dangos cymhwysedd mewn amrywiaeth o sgiliau a thechnegau ymarferol labordy.
Cwblhau cyfnod o brofiad galwedigaethol ac ennill o leiaf dau gymhwyster galwedigaethol perthnasol.
Trefnu, cynllunio, ac ymgymryd â thasgau yn annibynnol ac fel rhan o grŵp.
Cyfathrebu’n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig gan ddefnyddio offer technolegol priodol