Cyfleusterau, Offer ac Oriel yr Adeilad

Cyfleusterau ac Offer

Mae’r Brifysgol wedi buddsoddi’n sylweddol yng Ngwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Cynlluniwyd darpariaeth arbenigol helaeth. Ar 28 Ebrill 2004 agorwyd yr adeilad newydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gan yr enwog Gerald Davies CBE o’r byd rygbi. Yr enw arno yw adeilad Carwyn James, ac mae wedi’i enwi ar ôl y cyn-fyfyriwr nodedig o Aberystwyth a raddiodd mewn Cymraeg yn 1951 ac a ddaeth yn chwaraewr blaenllaw yn rygbi’r undeb, gan hyfforddi’r Llewod yn hynod lwyddiannus yn 1971.


Yn yr adeilad ar hyn o bryd mae 10 labordy arbenigol yn ogystal â swyddfeydd staff. Mae estyniad hefyd wrthi’n cael ei adeiladu, i’w gwblhau yn 2010, ac yma bydd 8 labordy arall.


Mae’r rhestr ganlynol yn cynnwys rhai (ond nid y cyfan) o’r offer a ddefnyddir ar gyfer ymchwil ac addysgu yn yr adran.

Ffisioleg

Mae’r labordai ffisioleg yn cynnwys ystod eang o offer ar gyfer monitro adweithiau i ymarfer corff. Mae hyn yn cynnwys melinau traed perfformiad uchel, nifer o feiciau Monark, ergomedrau beiciau sydd â brêcs electromagnetaidd (Lode), Powercranks ar gyfer beiciau ffyrdd a rhai oddi ar y ffordd, ergometreg rhwyfo, sbeirometreg, systemau dadansoddi nwy ar-lein ac ati. Mae yna nifer o systemau ar-lein o ansawdd uchel gydag ECG 12-plwm, yn ogystal â chyfleusterau dadansoddi a chasglu bag Douglas all-lein safonol.

Siambr Amgylcheddol

Mae siambr amgylcheddol yn rhoi modd astudio adweithiau yn y corff mewn amgylcheddau poeth, oer neu laith.

Labordy Gweithrediad Cyhyrau

Yma mae dynomomedr isocinetig Biodex, System Mesur Balistig, yn ogystal â set o bwysau o safon Olympaidd a chawell codi ar gyfer asesu gweithrediadau’r cyhyrau.

Labordy Biocemeg a Dadansoddi

I gyd-fynd â gwaith ym mhob disgyblaeth arall, yn enwedig ffisioleg, mae’r labordy hwn yn cynnwys dadansoddwyr i brofi gwaed, wrin a chwys, ac amrywiaeth o offer cysylltiedig. Ymysg pethau eraill, mae yna allgyrchyddion (centrifuges), rhewgelloedd -80°C, ffwrn aerglos (autoclave), dadansoddwr gwaed awtomataidd, darllenwyr plât (amsugnedd ac ymoleuedd), ffotomedr a dadansoddwr  biocemeg clinigol ayb. Mae’r labordy biocemeg yn llawn cyfarpar gan roi modd mesur rhestr bron yn ddiddiwedd o baramedrau a metabolion (e.e. lactad, glwcos, lipidau, hormonau ac ati ac ati) ar gyfer ymchwil i feysydd megis imiwnoleg, maeth, blinder, ymatebion i straen, iechyd ac afiechyd ac ati.

Labordy Anthropometreg

Yma ceir offer anthropometreg sylfaenol yn ogystal ag offer asesu cyfansoddiad y corff, gan gynnwys rhwystriant biodrydanol a thanc pwyso danddwr wedi’i suddo i’r llawr. Mae sganiwr DXA hefyd ar gael ar gyfer mesur cyfansoddiad y corff a dwysedd mwynau esgyrn.

Biomecaneg

Caiff labordy gweithrediad y cyhyrau ei ddefnyddio yn helaeth hefyd mewn biomecaneg. Mae gan y prif labordy biomecaneg offer sylfaenol ar gyfer dadansoddi cinematig a chinetig ar symudiadau. Cynlluniwyd y labordy presennol yn arbennig i’r diben hwn, ac mae ganddo nenfwd uchel a thrac rhedeg sy’n mynd allan drwy agoriad uchder llawn mewn un wal er mwyn caniatáu i athletwyr sbrintio, cicio neu daflu yn ddiymatal. Mae plât grym Kistler mawr, dadansoddi fideo digidol a delwedd gyfrifiadurol ar gael. Mae gan yr Adran hefyd system dal symudiad 3D mewn amser real (Motion Analysis) ar gyfer dadansoddi biomecanyddol manwl. Bydd labordy ymchwil newydd hefyd yn cael ei gynnwys yn yr estyniad i’r adeilad, i’w gwblhau yn 2010. 

Seicoleg a Seicoffisioleg

Mae ystafelloedd seminar cyfforddus yn rhoi modd cynnal gweithgareddau grŵp megis dadansoddi rolau mewn tîm a bod yn llefydd hamddenol i gyfweld athletwyr. O ran seicoleg, gellir defnyddio seicometreg sy’n seiliedig ar gyfrifiadur yn ogystal ag offer profi gweithrediadau gwybyddol (h.y. System Profi Vienna). Gellir gwneud hyn ochr yn ochr â dadansoddi anadlu, EMG, ECG, a monitro cyfradd curiad y galon yn ein labordy seicoffisioleg i astudio’r berthynas rhwng y corff a’r meddwl.