Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Rhagdraeth

Mae’r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn cyflwyno rhaglenni israddedig mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, yn gwneud ymchwil yn y gwyddorau chwaraeon ac ymarfer, ac yn darparu gwasanaethau ymgynghoriaeth i unigolion a sefydliadau yng Nghymru a gweddill Prydain.

Hanfod gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yw dadansoddi’n wyddonol sut mae’r corff dynol yn symud, yn ymarfer ac yn perfformio mewn chwaraeon. Mae’n fater o ddeall gwyddorau biomecaneg, ffisioleg a seicoleg i gael gwybodaeth ddamcaniaethol, ac o gymhwyso’r wybodaeth honno at sefyllfaoedd ymarferol.

Mae gwyddor chwaraeon yn ymwneud â chymhwyso gwyddoniaeth er mwyn gwella cymaint â phosibl ar berfformiad mabolgampwr(aig) unigol neu dîm, tra bo gwyddor ymarfer yn ymwneud â chymhwyso gwyddoniaeth at wella iechyd a lles drwy ymarfer. Gallai gwyddonydd chwaraeon lunio rhaglen hyfforddi i gynyddu cyflymder rasio rhedwyr pellter neu gynyddu gallu timau pêl-fasged i gyflymu gêm. Gallai gwyddonydd ymarfer, ar y llaw arall, lunio rhaglen hyfforddi i helpu unigolyn i golli pwysau neu i gynyddu cryfder y cyhyrau er mwyn i’r unigolyn allu dal i gyflawni tasgau beunyddiol heb flino.