Llwyddiannau Ymchwil ac Addysgu yr Ôl-raddedigion:
Mae’r Adran yn dathlu llwyddiannau diweddar ei myfyrwyr ôl-raddedig. Llongyfarchiadau i Dr Simon Payne, a basiodd arholiad llafar ei radd PhD ar 2 Mehefin 2011.
Hefyd, mae ansawdd dysgu uwchraddedig yr adran wedi cael ei gydnabod unwaith eto. Dyfarnwyd Gwobr Addysgu Rhagorol y Brifysgol i Sarah Forrest, sydd yn adeiladu ar lwyddiant Les Tumilty, a enillodd y wobr y flwyddyn ddiwethaf.
Yr Adran yn cael cyllid i sefydlu cysylltiadau newydd gartref a thramor:
Mae Dr Jo Thatcher a Dr Emily Oliver wedi cael cyllid gan Sefydliad Eingl-Japaneaidd DAIWA i gychwyn ymchwil cydweithredol gyda chydweithwyr sy’n gweithio ym Mhrifysgol Tsukuba yn Japan.
Mae’r adran yn parhau i godi ei phroffil yng Nghymru, a bydd yn cynnal dau leoliad profiad ymchwil ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth yn ystod yr haf, gyda chymorth bwrsariaethau gan Sefydliad Nuffield.