Llwyddiannau Ymchwil ac Addysgu yr Ôl-raddedigion:
15 June 2011
Mae’r Adran yn dathlu llwyddiannau diweddar ei myfyrwyr ôl-raddedig. Llongyfarchiadau i Dr Simon Payne, a basiodd arholiad llafar ei radd PhD ar 2 Mehefin 2011. Cyflawnodd Simon ei astudiaeth PhD o fewn yr adran gyda chymorth Ysgoloriaeth Ymchwil Uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth, yn astudio cymhelliannau hunan-gyflwyno a rheoli argraffiadau ym myd chwaraeon.
Hefyd, mae ansawdd dysgu uwchraddedig yr adran wedi cael ei gydnabod unwaith eto. Dyfarnwyd Gwobr Addysgu Rhagorol y Brifysgol i Sarah Forrest, sydd yn adeiladu ar lwyddiant Les Tumilty, a enillodd y wobr y flwyddyn ddiwethaf.
Nôl i'r brig