Skip logo, search and navigation. Go straight to the main content.

Ymchwil

Mae'r adran yn weithgar ym maes ymchwil, ac mae aelodau o'r staff yn ymwneud ag amrywiol brosiectau, gan gynnwys cydweithio â phrifysgolion a sefydliadau eraill. Mae gan yr adran gryfderau arbennig ym maes ffisioleg resbiradol a dycnwch, a rôl ymarfer yn iechyd y meddwl a lles. Mae gan aelodau o'r staff academaidd record dda o gyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddorol o safon uchel ar ôl i gydweithwyr adolygu eu gwaith. Maent hefyd wedi cyfrannu i benodau mewn llyfrau, i erthyglau poblogaidd mewn cylchgronau ac i ddarllediadau teledu a radio ar faterion sy'n ymwneud â'u gwaith ymchwil. Gweler y tudalennau proffiliau staff i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiadau ac ymchwil y staff.

Asesiad Ymchwil 2008 (RAE 2008)

Cyflwynwyd gwaith ymchwil gan yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2001. Cafwyd perfformiad da ganddi gyda 65% o'r gwaith ymchwil gafodd ei gyflwyno o safon ryngwladol gyda 15% yn rhagori yn rhyngwladol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ganlyniadau Asesiad Ymchwil 2008.

Seminarau Ymchwil yr Adran

Cliciwch Fan Hyn (Research Seminars) am fanylion. Croeso i Staff yr adran ac unrhyw fyfyriwr sydd
â diddordeb.