Newydd ar gyfer 2012 – Cymorth Gwyddonol i Athletwyr, gan yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Gan adeiladu ar lwyddiant yr Adran sydd wedi’i chynnwys fel gwersyll hyfforddi beicio mynydd Olympaidd 2012, rydym wedi creu portffolio o wasanaethau sy’n cyfuno ein harbenigedd gwyddonol a’n hadnoddau arloesol i optimeiddio’ch perfformiad athletaidd.
Wedi’i lleoli yn adeilad Carwyn James, mae ein labordai arloesol yn darparu adnoddau arbenigol i gynnal profion ffisiolegol, seicolegol a biomecanyddol sy’n ein galluogi i ddatblygu atebion pwrpasol i’ch helpu i gyflawni eich amcanion hyfforddi ac optimeiddio eich perfformiad.
Y cam cyntaf ar eich llwybr i lwyddiant yw mynychu sesiwn gyda’n ymgynghorydd arbenigol. Bydd hyn yn ein galluogi i gael dealltwriaeth glir o’r hyn rydych am ei gyflawni, a llunio pecyn o brofion a chefnogaeth penodol i’ch galluogi i gyrraedd eich nod.
Rydym wedi gweithio â nifer o sefydliadau, timau ac unigolion ar brosiectau ymgynghorol - o athletwyr hamdden i’r rhai sydd wedi cael llwyddiant ar lefel Ewropeaidd a Phencampwriaethau’r Byd. Gyda’n Profiad, Arbenigedd a Brwdfrydedd rydym yn ymroddedig i’ch helpu i berfformio hyd eithaf eich gallu.
I drefnu eich sesiwn ymgynghori cysylltwch â – athletesupport@aber.ac.uk / 01970 622108