Dr Emily Oliver
Darlithydd Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer
Cyswllt
Ebost: ejo@aber.ac.uk
Rhif Ffon: 01970 621543
Ymchwil
Prif Feysydd o Ddiddordeb:
Ffactorau seicolegol sydd ynghlwm â pherfformiad elitaidd, a chychwyniad a rheoliad ymddygiad pobl. Mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys cymhelliad (yn benodol y ddamcaniaeth hunanbenderfyniaeth), hunan-siarad, ac arweinyddiaeth.
Bywgraffiad
Cafodd Emily radd BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddor Chwaraeon gyda Seicoleg o Brifysgol Cymru Bangor yn 2005. Yna cwblhaodd Emily radd MSc mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Gymhwysol (2006) a gradd PhD (2009) mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff, hefyd ym Mangor, sy’n canolbwyntio ar gymhwyso’r ddamcaniaeth hunanbenderfyniaeth fel fframwaith i ddeall hanes ac effeithiau hunan-siarad. Hefyd cafod Emily Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU) yn 2009, ac mae bellach yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Cafodd ei phenodi yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Hydref 2009. Mae hi hefyd yn aelod o Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elitaidd.
Cyhoeddiadau
Oliver, E.J., Markland, D., & Hardy, J. (in press). Interpretation of self-talk and post-lecture affective states of higher education students: A self-determination theory perspective. British Journal of Educational Psychology.
Oliver, E.J., Markland, D., Hardy, J., & Petherick, C.M. (2008). The Effects of Autonomy-Supportive and Controlling Environments on Self-Talk. Motivation and Emotion, 32(3), 200-212.
Markland, D. & Oliver, E.J. (2008). The Sociociultural Attitudes Towards Appearance Questionnaire-3: A confirmatory factor analysis. Body Image: An International Journal of Research. 5(1), 116-121.
Hardy, J., Oliver, E.J., & Tod, D. (2008). A Framework for the Study and Application of Self-talk within Sport. In S. D. Mellalieu & S. Hanton (eds.) Advances in Applied Sport Psychology. London: Routledge.