Fiona Higgs

Myfyriwr PhD, Biomecaneg
Photograph of Fiona Higgs.

Cyswllt

Ebost: fhh09@aber.ac.uk
Rhif Ffon: 01970 622306

Ymchwil

Prif feysydd o ddiddordeb

Paramedrau Biomecanyddol, Ffisiolegol a Seicolegol sy’n dylanwadu ar y risg o gwympo mewn pobl hŷn.


Mae PhD Fiona yn rhan o brosiect ymchwil ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth y GIG yng Nghanolbarth Cymru a’r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth. Diben y prosiect yw monitro’n glinigol y newidiadau mewn paramedrau Biomecanyddol, Ffisiolegol a Seicolegol sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar y risg o gwympo mewn pobl hŷn, wrth iddynt gymryd rhan mewn rhaglen i atal cwympiadau, yn yr ysbyty ac yn y gymuned. Y gobaith yw y gellir defnyddio’r darganfyddiadau i ddatblygu templed ar gyfer rhaglen atal cwympiadau yng Nghanolbarth Cymru, a bydd yn cyfrannu at set ddata safonedig yng Nghymru.

Bywgraffiad

Cwblhaodd Fiona radd BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan raddio ym mis Mehefin 2008 ac ers hynny mae ei hymchwil ar gyfer ei thraethawd estynedig wedi cael ei gyhoeddi yn y Journal of Strength and Conditioning Research (gweler isod). Ar ôl graddio, gweithiodd Fiona fel Ymgynghorydd Cymorth i Ddysgwyr yng Ngholeg Addysg Bellach ac Addysg Uwch Matthew Boulton, Birmingham, a chymhwysodd fel Therapydd Tylino Chwaraeon (Tystysgrif Lefel 3, Active IQ). Ym mis Hydref 2009, dechreuodd ei PhD a’i swydd cynorthwyydd dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth o dan oruchwyliaeth Dr Sam Winter a Dr Joanne Thatcher. 

Cyhoeddiadau