Fergus Guppy

Myfyriwr PhD, Ffisioleg Ymarfer
Photograph of Fergus Guppy.

Cyswllt

Ebost: fmg10@aber.ac.uk
Rhif Ffon: 01970622306

Proffil

Cwblhaodd Fergus radd israddedig mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Heriot Watt ym mis Gorffennaf 2008. Yn ystod y cyfnod hwn cymerodd ran mewn prosiect ymchwil a oedd yn defnyddio dull newydd o ymarfer fel triniaeth bosibl ar gyfer clefyd siwgr, cafodd yr ymchwil ei gyhoeddi yn y British Medical Council Journal of Endocrine Disorders (gweler isod). Yn ystod ei radd, gweithiodd Fergus fel Hyfforddwr Ffitrwydd Cynorthwyol ar gyfer Undeb Rygbi’r Alban cyn Cwpan Rygbi’r Byd 2007, ac ers graddio mae Fergus wedi treulio blwyddyn yn gweithio i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr, yn recriwtio a hyfforddi dyfarnwyr a sgorwyr. Dechreuodd Fergus ar ei PhD ym mis Ionawr 2010 o dan oruchwyliaeth Dr Jo Wallace a Dr Rhys Thatcher.

Ymchwil

Prif Feysydd o Ddiddordeb:

Clefyd Siwgr a’i gysylltiad â chyfansoddiad y corff ac iechyd yr esgyrn.

Cyhoeddiadau

Babraj, J.A., Vollaard, N.B.J., Keast, C., Guppy, F.M., Cottrell, G. and Timmons, J.A. (2009) Extremely short duration high intensity exercise improves insulin action in healthy young males. British Medical Council Journal of Endocrine Disorders, 9:3