Jonathan Males
Cymrawd er Anrhydedd
Cyswllt
Proffil
Mae Jonathan wedi cystadlu yn rhyngwladol a bu’n bencampwr canŵio slalom Awstralia ddwywaith cyn graddio o Brifysgol Tasmania gyda gradd (Anrhydedd) BA dosbarth cyntaf mewn Seicoleg yn 1991. Bu’n gweithio wedyn gyda Sefydliad Chwaraeon Awstralia a bu’n hyfforddi tîm Olympaidd Awstralia a enillodd fedalau yn 1992. Daeth i Brydain yn 1992 a dechreuodd PhD ym Mhrifysgol Nottingham gan barhau gyda’i ymchwil i swyddogaeth emosiwn a chymhelliant ar draws ystod o chwaraeon. Wedi’i achredu gan BASES ers 1996 bu’n seicolegydd chwaraeon tîm Canŵio Prydain yn ystod tri ymgyrch Olympaidd o 1995 i 2004 a fe oedd seicolegydd chwaraeon pencadlys Cymdeithas Olympaidd Prydain yng ngemau Athens. Yn ddiweddar mae wedi gweithio gyda nifer o Gyrff Cenedlaethol (NGBs) wrth iddynt ymgymryd â Chenhadaeth Chwaraeon Y Deyrnas Unedig 2012, gan roi cymorth iddynt ddatblygu eu rhaglenni perfformio ar gyfer gemau Olympaidd Llundain a thu hwnt. Mae ei gwmni Performance1 yn cynghori gwahanol gwmnïau a sefydliadau sector cyhoeddus ar arweinyddiaeth a datblygu trefniadol.Ymchwil
Prif Feysydd Diddordeb:
Seicoleg newid a trawsnewid, a llwybrau i ddatblygu dawn mewn chwaraeon a busnes; lle athletwyr a gwireddu potensial perfformiad.
Cyhoeddiadau
Males, J.R., Kerr, J.H. (1996). Stress, emotion and performance in elite slalom canoeists. The Sport Psychologist, 10, 17-36.
Males, J.R., Kerr, J.H. & Gerkovich, M.M. (1998). Metamotivational states during canoe slalom competition: A qualitative analysis using reversal theory. Journal of Applied Sport Psychology, 10, 185-200.
Males, J.R. (1999). Individual experience in slalom canoeing. In J. Kerr (Ed.) Experiencing Sport; reversal theory. (pp. 101 – 127) Chichester: John Wiley and Sons.
Males, J.R., Kerr, J.H., Thatcher, J. & Bellew. E. (2006). Team process and players’ psychological responses to failure in a national volleyball team. The Sport Psychologist, 20, 275-294.
Males, J.R. (2006). Reflections on Athens; Delivering sport psychology provision at the BOA headquarters. Sport & Exercise Review, Vol 2 No 2, 12 – 16. Special Issues Reflections on Athens.