Steve Ingham
Cymrawd er Anrhydedd
Cyswllt
Proffil
Mae Steve yn gweithio llawn-amser ym maes Gwyddor Chwaraeon byth ers graddio o Brifysgol Brighton yn 1996. Bu’n gweithio gyda chwaraeon Olympaidd a phroffesiynol, yn rhoi cymorth ffisiolegol i fwy na 30 o Bencampwyr y Byd ac Enillwyr Medalau Olympaidd. Rhwng 1998 a 2004 roedd Steve yn Uwch Ffisiolegydd Chwaraeon ac wedyn yn Rheolwr Gwyddor Chwaraeon yn y Sefydliad Meddygol Olympaidd (BOMC gynt). Yno y bu’n arwain y rhaglenni cymorth ffisiolegol i sawl camp Olympaidd, gan gynnwys rhwyfo, campau’r trac a’r maes, a thimoedd bobslai i sawl Pencampwriaeth o bwys, gan gynnwys Gemau Olympaidd Sydney a Salt Lake City. Bu Steve wedyn yn rheoli rhaglen ymaddasu tîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Athen. Yn 2005 daeth yn Brif Ffisiolegydd yn Sefydliad Canolfan Perfformiad Chwaraeon Lloegr ym Mhrifysgol Loughborogh, yn goruchwylio rhaglenni’r triathlon, canŵio, nofio a chwaraeon anabl, ac yn arwain y cymorth i’r campau trac a maes. Ar y ffordd mae Steve wedi cwblhau PhD mewn cineteg defnyddio ocsigen a pherfformiad o Brifysgol Surrey, Roehampton, ac wedi ennill Achrediad Chwaraeon Perfformiad Uchel BASES, Cofrestriad â BOA a Thystysgrif y NSCA mewn Cryfder a Gwella Cyflwr. Bu Steve yn sbrintiwr trac yn y gynghrair athleteg genedlaethol i ddynion – ond mae’r dyddiau hynny wedi hen fynd heibio erbyn hyn, gwaetha’r modd!Ymchwil
Prif Feysydd Diddordeb:
Gwella perfformiad ffisiolegol yn y pellter canolig a'r sbrint, penderfynyddion, modelu hyfforddiant.
Cyhoeddiadau
Ingham, S.A., Carter, H., Whyte, G.P., and Doust, J.H. (2008) Physiological and performance effects of low versus mixed intensity rowing training. Medicine and Science in Sports and Exercise, 40 (3), 579-584.
Ingham, S.A., Nevill, A.M., Pedlar, C., Whyte, G.P., Dunman, N. and Bailey, D.M. (2008) Determinants of 800m and 1500m running performance using allometric models, Medicine and Science in Sports and Exercise, 40 (2), 345-350.
Ingham, S.A., Carter, H., Whyte, G.P., and Doust, J.H. (2007) Comparison of the oxygen uptake kinetics of club and Olympic champion rowers. Medicine and Science in Sports and Exercise, 39 (5), 865-871
Lindh, A., Peyrebrune, M., Ingham, S.A., Bailey, D.M. and Folland, J. (2007) Sodium bicarbonate improves swimming performance. International Journal of Sports Medicine, Epub Nov.
Ingham, S.A. (2006) Training for Strength: In. The Science of Sport Training. Ed. Whyte, G.P. and Sharpe, C. Elsevier, Edinburgh.
Godfrey, R.J., Ingham, S.A., Pedlar, C.R., Whyte, G.P. (2005) The detraining and retraining of an elite rower. Journal of Science and Medicine in Sport, 8 (3), 314-20.
Ingham, S.A. Whyte, G.P., Jones. K., and Nevill, A.M. (2002) Determinants of 2000 m rowing ergometer performance in elite rowers. European Journal of Applied Physiology. 88, 243-246.