Yr hyn y mae'r adran yn ei wneud

Bydd yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau. O'r rheiny, ei thair prif swyddogaeth yw addysgu rhaglenni israddedig mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, gwneud ymchwil yn y gwyddorau chwaraeon ac ymarfer, a chyflawni gwaith ymgynghoriaeth sy'n amrywio o waith gydag unigolion i waith gyda sefydliadau cenedlaethol ar brosiectau sy'n seiliedig ar wyddor chwaraeon ac ymarfer.

Addysgu

Dechreuwyd addysgu'r BSc (Anrh) mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff ym mis Medi 2002, a bydd y staff - sy'n helaeth eu cymwysterau - yn defnyddio dulliau dysgu ac addysgu arloesol. Yn ogystal â'r darlithiau a'r seminarau, mae'r cwrs yn cynnwys llu o weithgareddau myfyriwr-ganolog fel prosiectau, gweithdai, sesiynau datrys problemau a sesiynau tiwtorial. Cynhelir amryw byd o ddosbarthiadau yn y labordai a bydd y myfyrwyr yn dysgu defnyddio offer gwyddonol i gynnal profion soffistigedig ar ffitrwydd ac i ddadansoddi symudiadau. Ategir pob modiwl ag adnoddau electronig i helpu'r myfyrwyr i astudio y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Caiff y sgiliau allweddol eu plethu'n ofalus i'r cwricwlwm i ddatblygu gallu'r myfyrwyr i roi cyflwyniadau, dadansoddi data, llunio adroddiadau, ysgrifennu'n academaidd a gweithio mewn grwpiau. Seilir yr asesu ar gyfuniad o waith cwrs, adroddiadau ac arholiadau.

Ymchwil

Mae'r adran yn weithgar ym maes ymchwil, ac mae aelodau o'r staff yn ymwneud ag amrywiol brosiectau, gan gynnwys cydweithio â phrifysgolion a sefydliadau eraill. Mae gan yr adran gryfderau arbennig ym maes ffisioleg resbiradol a dycnwch, a rôl ymarfer yn iechyd y meddwl a lles. Mae gan aelodau o'r staff academaidd record dda o gyhoeddi mewn cyfnodolion gwyddonol o safon uchel ar ôl i gydweithwyr adolygu eu gwaith. Maent hefyd wedi cyfrannu i benodau mewn llyfrau, i erthyglau poblogaidd mewn cylchgronau ac i ddarllediadau teledu a radio ar faterion sy'n ymwneud â'u gwaith ymchwil.

Busnes ac ymgynghoriaeth

Yr ydym wedi gweithio gydag amryw o sefydliadau, timau ac unigolion ar brosiectau ymgynghoriaeth. Mae ein labordai, a'r cyfleusterau chwaraeon a gynigir gan y Ganolfan Chwaraeon, yn arbennig o addas i asesu ffitrwydd mabolgampwyr unigol a thimau. Gellir cynnal profion ymarfer cynyddol i asesu gallu o ran dycnwch a grym aerobig, profion cyflawn i asesu'r ffwythiant anaerobig, ac asesu cyfansoddiad y corff a phrofi cryfder. Mae'r adran hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ymgynghoriaeth mwy cyffredinol i sefydliadau sy'n ymddiddori mewn cymhwyso ehangach ar wyddor chwaraeon ac ymarfer. Enghraifft dda o hynny yw'r Aberystwyth Cakirue Naom sydd wedi ennyn diddordeb amryw o sefydliadau yng Nghymru a Lloegr.

SES_news_aug11w