Ynghylch Box Rox

dringo wal

Box Rox yw ein wal ddringo dan do bwrpasol a gynlluniwyd gan DR Climbing Walls, sy’n un o’r gwneuthurwyr waliau dringo blaenllaw. Mae’n ateb gofynion dringwyr, beth bynnag fo’u gallu, gyda thair ardal benodol sy’n estyn 147m2.

Ar gyfer dringwyr newydd, mae yna slab bowldro mawr gyda llwybrau dringo wedi’u marcio’n glir i feithrin hyder. Bydd dringwyr canolradd a dringwyr profiadol hefyd yn mwynhau’r wal fowldro arbennig, yn ogystal â’r wal dringo arweiniol sy’n bargodi a’r llwybrau heriol a osodwyd gan rai o ddringwyr gorau Prydain. Mae’r nodweddion a’r pocedi wedi’u llunio’n gelfydd i efelychu nodweddion craig naturiol. Mae modd symud y gafaelion er mwyn addasu’r llwybrau’n rheolaidd, felly mae dringo Box Rox bob amser yn rhoi her newydd.

Rhaid dringo dan oruchwyliaeth yn yr ardal dringo rhaff dop/arweiniol bob amser. Gyda phedwar llwybr, gan gynnwys dau lwybr sy’n bargodi a chornel i ymarfer techneg pontio, mae’r wal 5m yn addas ar gyfer dringwyr beth bynnag fo’u gallu.

Mae’r wal seler wedi’i gosod ar ongl fargodi gyson o 20 gradd ac mae’n adnodd hyfforddi rhagorol ar gyfer dringwyr mwy profiadol sydd am gryfhau.

Datganiad diogelwch

Pwysig: Mae dringo creigiau, boed dan do neu yn yr awyr agored, yn weithgaredd sy’n gallu bod yn beryglus a rhaid i ni dynnu’ch sylw at Ddatganiad Cyfranogiad Cyngor Mynydda Prydain: "Mae Cyngor Mynydda Prydain yn sylweddoli bod dringo a mynydda’n weithgareddau ac iddynt berygl o anaf neu farwolaeth. Dylai’r rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn fod yn gyfrifol am eu gweithredoedd a’u cyfranogiad eu hunain."