Cyrsiau Box Rox i Oedolion

Gall ysgolion neu grwpiau (e.e. y Sgowtiaid a’r Ffermwyr Ifanc) logi Box Rox neu gallwch ei logi ar gyfer partïon plant (ar amserau penodol). Cysylltwch ag Ysgrifenyddes y Ganolfan Chwaraeon, Holly Morgan, yn hgm@aber.ac.uk a/neu ffoniwch 01970 622275.

Bydd Dosbarthiadau i Oedolion yn cael eu cynnal ym mis Medi!  Dyddiadau ac amser i'w cadarnhau.

Dosbarth i ddechreuwyr

Fformat newydd a gwell. Nod y dosbarth i ddechreuwyr yw rhoi cyflwyniad hwyliog i ddringo ac mae’n addas i rai sydd heb ddringo erioed. Bydd y cwrs yn cyflwyno’r sgiliau sydd eu hangen i ddringo dan do, ar sail gêmau dringo, heb unrhyw bwysau i gyrraedd safon arbennig. Mae’n ddosbarth gwych i unrhyw un sydd am wella’i ffitrwydd cyffredinol neu roi cynnig ar chwaraeon newydd a difyr.

Dosbarth gwella

Mae’n addas i’r rheini sydd wedi cwblhau’r dosbarth i ddechreuwyr, i rai sydd ag ychydig o brofiad blaenorol, neu i rai sy’n chwilio am hyfforddiant sylfaenol. Mae’r dosbarth yn sicrhau bod gennych y sgiliau a’r hyder i ddringo unrhyw wal ddringo dan do. Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ar dechneg dringo a sgiliau gwaith rhaff.

Hyfforddiant i unigolion

Rydym yn darparu hyfforddiant i unigolion ar hyn o bryd.