Oriau Agor ac Archebu Box Rox
Oriau Agor
Dydd Llun – dydd Gwener 9.00 – 21.00 *
Dydd Sadwrn a dydd Sul 9.00 – 16.00 *
Mae’r wal ddringo ar gau ar yr adegau isod:
Nosweithiau i Ddringwyr Ifanc (yn ystod tymor yr ysgol yn unig) dydd Llun 16.00 - 19.00 a dydd Mawrth 16.00 - 17.00
Noswaith Ddringo i Oedolion dydd Iau 6:30pm - 7:30pm
Clwb Dringo Prifysgol Aberystwyth (yn ystod y tymor yn unig) dydd Llun 19.00 – 21.00 a dydd Gwener 18:00 - 21:00 – Yn ystod y cyfnodau hyn bydd aelodau Cerdyn Sborti’n cael defnyddio Box Rox am £1. Bydd y wal yn dal i fod ar agor i’r cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn ond gall fod yn brysur.
Mae gwybodaeth am amseroedd mynediad cyfyngedig yn cael ei rhoi ar yr hysbysfwrdd wrth y fynedfa. I osgoi siom, fe’ch cynghorwn i gadarnhau’r oriau agor cyn i chi ddod i’r Ganolfan drwy ffonio (01970) 622 280.
Tâl Mynediad
| Aelodau’r Ganolfan Chwaraeon | Eraill nad ydynt yn aelodau | |
|---|---|---|
| Myfyrwyr | £2.10 | £3.90 |
| Staff/Cyhoedd | £2.90 | £3.90 |
| Rhai dan 18* | £2.10 | £3.90 |
* Sylwch: Rhaid i oedolyn (dringwr profiadol neu ddringwr wedi cynefino) oruchwylio dringwr ifanc a dylai lofnodi ‘Ffurflen Ysgwyddo Cyfrifoldeb’ yn y Dderbynfa ar gyfer pob ymweliad – y gymhareb uchaf oedolyn i ddringwyr ifanc ar ymweliad o’r fath yw 1:2. Mae taflen ‘Canllawiau ar gyfer Goruchwylio Dringwyr Ifanc’ ar gael o’r Dderbynfa er gwybodaeth.
Cofrestru: Rhaid i bob dringwr lenwi Ffurflen Gofrestru Box Rox cyn defnyddio’r cyfleuster. Codir tâl un-tro o £6 am hyn.
Mynediad
Dringwyr newydd – rhaid iddynt fynd ar gwrs cynefino neu rhaid i ddringwr profiadol eu goruchwylio. Rhaid i’r dringwr profiadol lofnodi Ffurflen Ysgwyddo Cyfrifoldeb gyda’r dringwr newydd yn y Dderbynfa.
Dringwyr profiadol – ar ôl llenwi hunanasesiad i ddatgan eu bod yn gymwys fel rhan o’r Ffurflen Gofrestru, gallant ddechrau dringo ar unwaith.
Llogi Box Rox ar gyfer grŵp (ar rai adegau’n unig)
Gallwch logi Box Rox ar gyfer partïon plant neu grwpiau (Sgowtiaid, Ffermwyr Ifanc ac ati).
Llogi am 1 awr + 1 hyfforddwr - £54.00 (hyd at 8 o bobl)
Llogi am 1 awr + 2 hyfforddwr - £70.00 (hyd at 16 o bobl)
Grwpiau: Cysylltwch ag Ysgrifenyddes y Ganolfan Chwaraeon Krystal Waltho krw@aber.ac.uk a/neu ffôn 01970 62 2280
Diogelwch
I sicrhau diogelwch pawb sy’n dringo, byddwn yn cadw llygad ar y wal ddringo’n barhaus i sicrhau bod dringwyr yn cydymffurfio â safonau arferion dringo da, fel a nodir yn Amodau Defnyddio Box Rox. Byddwn yn gofyn i unrhyw ddringwyr nad ydynt yn bodloni’r safonau gofynnol er mwyn dringo’n ddiogel:
- Addasu’u modd o ddringo’n briodol
- Cwblhau cwrs cynefino (eto)
- Yn achos y rheini sy’n tramgwyddo’n gyson – byddwn yn diddymu’u Haelodaeth o Box Rox