Llogi Beic

Beiciau i staff y Brifysgol yn unig eu defnyddio am ddim

Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn falch o gyhoeddi ei bod wedi llwyddo i gael cyllid grant o’r Gist Gymunedol i brynu dau feic Trek T10 o Summit Cycles.

Maint ffrâm y beiciau hyn yw 17" ac 20".

Os hoffai’r staff ddefnyddio’r beiciau hyn AM DDIM i deithio i gyfarfodydd ar y campws, neu i feicio yn ystod egwyl, mae croeso iddynt gysylltu â’r Ganolfan Chwaraeon. (Gofynnir i chi roi o leiaf 3 diwrnod o rybudd i sicrhau bod y beiciau’n barod i’w defnyddio.)

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Mae’r Brifysgol hefyd wedi ymuno â’r Cynllun Beicio i’r Gwaith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael i’r staff yma.