Cyflwyniad i’r Gampfa

Cyflwyniad i Ganolfan Wellness

Mae sesiynau cyflwyno cynhwysfawr, llawn gwybodaeth Canolfan Wellness yn ffordd wych i ddechrau arni yn EICH CAMPFA. Cewch eich tywys drwy’r sesiwn gyflwyno gan un o’n hyfforddwyr cryfder a chyflyru cyfeillgar, a chyfle i ymlacio, derbyn yr holl wybodaeth newydd a gofyn unrhyw gwestiynau. Cewch weld sut i ddefnyddio’r cyfarpar a gwneud yn fawr o’ch ymarfer. Byddwch yn cael gwybodaeth hanfodol hefyd am iechyd a diogelwch gan gynnwys y cod ymddygiad. Mae’r sesiwn gyflwyno’n para tua 30 munud ac yn costio £10.00.

Amseroedd Cyflwyniadau:

Llun i Gwener 10-11yb, 1-2yh, 2-3yh, 3-4yh, 4-5yh, a 7-8yh

‌Cyflwyno Pwysau Rhydd – Codi pwysau am y tro cyntaf?

Mae’r Cyflwyniad i Bwysau Rhydd yn dangos i chi sut i fanteisio i’r eithaf ar y math mwy penodol a ‘naturiol’ hwn o hyfforddi. Bydd yr ystod gynhwysfawr o beiriannau cryfder a chyflyru a’r dewis helaeth o bwysau rhydd o gymorth i chi i wneud ymarferion mwy penodol yn eich dewis gamp neu wrth geisio cyrraedd eich nodau hyfforddi. Gall ein hyfforddwyr cryfder a chyflyru dynodedig helpu unigolion sy’n dilyn rhaglen camp-benodol i berfformio hyd eithaf eu gallu. Mae’r sesiwn hefyd yn cyflwyno cyfarpar yr Ystafell Llwytho Platiau. Mae’r cyflwyniad i Bwysau Rhydd yn para tua 45-60 munud ac yn costio £10.00.

Sesiwn Achredu Pwysau Rhydd – Llwybr Carlam i Ddefnyddwyr Profiadol

Er mwyn defnyddio’r Ystafell Pwysau Rhydd, gall defnyddwyr a chanddynt brofiad o ddefnyddio pwysau rhydd yn ddiogel ac yn effeithiol fynd drwy broses achredu gydag un o’n hyfforddwyr cryfder a chyflyru cymwys. Mae disgwyl i’r defnyddwyr hyn fedru gwneud y symudiadau sylfaenol eisoes, megis codi pwysau marw, cyrcydu, y fainc, sbotio, a chynhesu ac oeri. Mae’r sesiwn achredu’n para tua 10-15 munud ac yn costio £5.00 ac mae hefyd yn cynnwys eich tâl mynediad ar gyfer y sesiwn.

I archebu lle yn un o’r sesiynau uchod dewch i Dderbynfa’r Ganolfan Chwaraeon neu ffoniwch y Dderbynfa ar 01970 622280, neu anfonwch ebost i sports@aber.ac.uk.