Cyfleusterau Dan Do

Pwll Nofio

Mae ein pwll nofio yn 25 llath o hyd a 10 llath o led. Mae’r pwll ar agor ar gyfer sesiynau nofio cyffredinol ar adegau penodol o’r wythnos.pwll nofio

Caiff y pwll ei ddefnyddio hefyd gan glybiau nofio, polo dŵr, canŵio a thanfor y Brifysgol. Cewch hyd i fanylion am y clybiau hyn ar dudalennau’r Undeb Athletig.

Rydym hefyd yn cynnal nifer o ddosbarthiadau nofio yn ystod y tymor, felly os ydych yn ddechreuwr, am wella’ch dulliau nofio, neu am ennill Medal Efydd am Achub Bywyd, mae croeso i chi gofrestru ac ymuno â ni.

Sawnariwm

sawnariwmBeth yw Sawnariwm Nordig? Mae’n gaban pren sy’n darparu amgylchedd ymdrochi rhwng sawna sych ac ystafell stêm wlyb. Mae’r cyfuniad cytbwys o wres a lleithder yn creu awyrgylch ‘trofannol’ sy’n ddelfrydol er mwyn ymlacio ac adfywio.

Canolfan Wellness

peiriant rhedegMae’r Ganolfan Wellness yn boblogaidd iawn ac mae’n hwyluso ymarferion iechyd a ffitrwydd. Mae’n darparu’r offer ffitrwydd gorau ar y farchnad ac yn ateb gofynion pobl o bob safon, o ddechreuwyr i athletwyr elît. Gall y rheini sydd am wella ar ôl anaf neu salwch ddefnyddio’r peiriannau ystod gyfyngedig.

Sesiynau Beicio Dan Do

beiciau dan doMae dosbarthiadau beicio grŵp o dan do ar gael yn y gampfa. O dan arweiniad hyfforddwr cymwysedig, mae’r sesiynau’n cyfuno symudiadau beicio sylfaenol, anogaeth ac ymarferion ffitrwydd. Mae’r beiciau’n caniatáu i chi reoli eich lefelau ymdrech eich hun, tra’ch bod yn cael hwb o fod yn rhan o grŵp. Mae dull arloesol ‘Spin 2 Win’ wedi creu profiad unigryw sydd wedi trawsnewid natur ymarferion grŵp.

Wal Ddringo

wal ddringoP’run a ydych yn rhoi cynnig ar ddringo am y tro cyntaf, yn hen law arno, neu rywle yn y canol, dewch i brofi cyffro dringo creigiau ar ‘Box Rox’, sef y wal ddringo dan do o’r radd flaenaf yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol. Cewch ragor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael a sut i gymryd rhan yn Wal Ddringo Dan Do.

 

Ystafell Pwysau Rhydd

Mae’r Ystafell Pwysau Rhydd yn cynnig dull mwy penodol a ‘naturiol’ o ymarfer. Mae’r ystod gynhwysfawr o beiriannau cryfder a siapio a’r dewis helaeth o bwysau rhydd yn sicrhau bod modd i chi ganolbwyntio ar elfennau sy’n berthnasol i’ch chwaraeon neu’ch targedau hyfforddi chi. Mae’r adnoddau ar gael i ddefnyddwyr pwysau profiadol a phobl llai profiadol sydd angen cymorth gan ein staff.

Ystafell Ddawns

aerobeg yn y ganolfan chwaraeonCafodd ein Hystafell Ddawns ei hadnewyddu’n ddiweddar ac mae bellach yn lle hyfryd i ymarfer. Mae yna lawr pren â sbringiau sy’n lliniaru’r effaith ar y coesau, yn ogystal â drychau ar y waliau i’ch helpu i weld sut mae’ch corff yn gweithio.

Rydym yn cynnal llawer o’n dosbarthiadau aerobeg a dawns yma. Rydym hefyd yn cynnal dosbarthiadau Tai Chi a Ioga a gwersi Dawns Neuadd a Dawns America-Ladin yn yr ystafell hon. Cewch gipolwg ar y Cynllun Hamdden ar ddechrau pob tymor i weld pa ddosbarthiadau yr hoffech ddod iddyn nhw.

Cyrtiau Sboncen

cwrt sboncenMae dau gwrt sboncen ar gael (1 Neuadd Chwaraeon, 2 Cawell Chwaraeon) ac mae modd eu harchebu chwe diwrnod ymlaen llaw. Codir tâl o £1.00 am bob sesiwn 40 munud i dalu am y goleuadau – ac eithrio ar amseroedd clwb penodol. Mae gwersi ar gael i ddechreuwyr a chwaraewyr canolradd.

Cewch logi raced o’r Dderbynfa am £1. Mae cynghrair lewyrchus ar gael ar gyfer myfyrwyr ac mae croeso i bobl ar bob lefel ymuno. Mae cynghrair arall yn cyfarfod yng nghanolfan hamdden y dref.

Y Brif Neuadd Chwaraeon

Mae’r brif neuadd chwaraeon yn ddigon mawr ar gyfer tri chwrt badminton. Fe’i defnyddir hefyd ar gyfer pêl-foli, pêl-fasged, karate, cleddyfaeth, ymarfer bocsio, ymarferion cylch a gêmau eraill. Mae iddi lawr pren â sbringiau a ffenestri mawr sy’n sicrhau bod digon o olau’n llifo i’r neuadd. Gallwch archebu’r neuadd chwaraeon ar adegau penodol i ymarfer neu i chwarae – mae hyn am ddim i holl aelodau’r Ganolfan Chwaraeon. Cewch ragor o wybodaeth am sut i ddod yn aelod o’r Ganolfan Chwaraeon gan yr Ysgrifennydd Aelodaeth ar 621521.

Y Gawell Chwaraeon

Y Gawell Chwaraeon yw’r ail neuadd chwaraeon ar y campws ac mae’n ddigon mawr ar gyfer 6 chwrt badminton, 2 gwrt pêl-foli, 2 gwrt tenis dan do, 1 cwrt pêl-fasged, 2 gwrt pêl-rwyd, maes hoci dan do, neu faes pêl-droed 5 bob ochr. Mae’r clybiau chwaraeon yn gwneud defnydd helaeth ohoni.