Cyfleusterau Awyr Agored
Gallwch archebu’r holl gyfleusterau’n uniongyrchol drwy’r Ganolfan Chwaraeon neu drwy Swyddfa Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr. Sylwch: Nid oes angen archebu’r cyrtiau tenis ymlaen llaw.Caeau Chwarae'r Ficerdy
Mae’r caeau chwarae yn goron ar gyfleusterau chwaraeon Prifysgol Aberystwyth ac fe’u lleolir ar ddau safle. Mae enw da gan Gaeau Chwarae’r Ficerdy yn genedlaethol ac mae’r caeau hyn, sy’n estyn tua 16 erw, yn gartref i’r timau pêl-droed, rygbi, tenis a chriced cyntaf. Mae’r cyfleusterau hyn yn cael eu cynnal fel pin mewn papur ac maent yn arwydd o ragoriaeth sy’n destun eiddigedd ymhlith timau sy’n ymweld ag Aberystwyth ers blynyddoedd. Mae’r gofalwyr maes a’r tîm rheoli’n ymfalchïo yn y gwaith o gynnal ac estyn yr enw da am ragoriaeth ac mae’r myfyrwyr yn elwa drwy chwarae ar wyneb o’r safon uchaf. Yn wir, cystal yw safon y caeau fel y bu modd i ni ddenu defnyddwyr allanol nodedig i’w defnyddio, fel Twrnament Pêl-droed Cymru Gyfan, timau pêl-droed proffesiynol, a nifer o wahanol Gyrff Llywodraethu Chwaraeon, gan gynnwys criced, hoci a phêl-droed.
Tenis
Yng Nghaeau’r Ficerdy, mae gennym 3 chwrt glaswellt, 3 chwrt caled a 3 chwrt siâl. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi bod modd i aelodau ddefnyddio’r cyrtiau tenis sydd wedi’u hadnewyddu yng Nghlwb Tenis Ffordd y Gogledd, gan dalu cyfraddau is er mwyn ymuno â’r clwb. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Clwb Tenis Aberystwyth
Caeau Chwarae Blaendolau
Mae’r safle arall, mwy, wedi’i leoli ym Mlaendolau, lle mae’r caeau’r un mor drawiadol ar tua 34 erw o dir. Yma, yn ychwanegol at gêmau timau’r Brifysgol, mae gêmau’r cynghreiriau pêl-droed a chriced rhyngadrannol yn cael eu chwarae. Un o rinweddau eraill y safleoedd hyn yw eu bod yn agos at y prif gampws, y dref a llety’r myfyrwyr, felly mae’n hawdd cyrraedd atynt.
Yn ogystal â’r caeau glaswellt, mae dwy wiced griced artiffisial ym Mlaendolau, ynghyd â rhwydi ymarfer criced.
Cae Artiffisial wedi'i Oleuo
Mae’r cae artiffisial wedi’i oleuo’n darparu wyneb rhagorol drwy gydol y flwyddyn ar gyfer hoci a phêl-droed yn bennaf. Rydym yn rhannu’r cyfleuster â’r gymuned, felly caiff amseroedd hyfforddi’u neilltuo ar gyfer Timau’r Brifysgol gyda’r nos a chaiff gêmau hoci’u chwarae yno ar ddydd Mercher ac ar benwythnosau. Mae gêmau hoci a phêl-droed adrannol bob amser yn boblogaidd (er gwaetha’u natur gystadleuol!) ac maent fel arfer yn digwydd amser cinio.
Trac Rhedeg 2 Lôn
Mae ein trac rhedeg newydd, a osodwyd gan MONDO, yn darparu’r unig gyfle i redwyr Ceredigion ddefnyddio trac go iawn. Gwnaed y trac o ddeunydd Mondotrack SX ac mae’n wyneb arloesol sy’n seiliedig ar ymchwil newydd gyda Phrifysgol Pavia. Bydd y gwead newydd hwn yn gwella perfformiad athletig unrhyw redwr. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio neu archebu’r cyfleuster gwych hwn, cliciwch yma.