Cwestiynau Cyffredin

Sut alla'i ddefnyddio'r cyfleusterau?

Er mwyn cael defnyddio’r cyfleusterau, mae’n ofynnol cwblhau sesiwn gynefino sy’n para awr (codir tâl bach am hyn). Darperir y sesiynau hyn yn rheolaidd drwy gydol y tymor a gallwch archebu lle hyd at wythnos ymlaen llaw yn Nerbynfa’r Ganolfan Chwaraeon. (01970 622 280).


Ar ôl cynefino, gall y rheini sy’n gymwys weithio gyda chymorth Allwedd Wellness a gall y rheini sydd angen ychydig rhagor o gymorth ddod i’r sesiynau o dan oruchwyliaeth. Gall y rheini sydd angen cyngor arbenigol ddefnyddio ein gwasanaeth Hyfforddiant Personol.

Oes rhaid i mi fod yn aelod?

Nid oes rhaid i chi fod yn aelod i ddefnyddio’r Ganolfan Wellness, ond mae’n dipyn rhatach os ydych yn aelod. Cewch gipolwg ar yr opsiynau aelodaeth.

Faint mae'n ei gostio i ddefnyddio'r gampfa?

Ewch i’r dudalen Prisiau i gael gwybodaeth am gost defnyddio’r gampfa.

Beth yw cardiau aur?

Mae cardiau aur yn caniatáu i chi ddefnyddio’r Ganolfan Wellness a’r Ystafell Pwysau Rhydd yn ddiderfyn am gyfnodau penodol drwy gydol y flwyddyn, os ydych wedi cwblhau sesiwn gynefino. Cewch hyd i wybodaeth am y gost a’r opsiynau yma.

Ymhle alla i gael gafael ar allwedd Wellness?

Ar ôl cwblhau’ch sesiwn gynefino, gallwch gasglu’ch allwedd o’r Swyddfa Wellness. Galwch heibio i’r dderbynfa ac fe wnaiff aelod staff eich helpu i drefnu gosodiadau eich allwedd. Dim ond yn ystod yr wythnos y mae’r gwasanaeth hwn ar gael.

Beth os byddai'n colli neu'n anghofio fy allwedd?

Os byddwch yn anghofio’ch allwedd, gofynnwch i un o’r hyfforddwyr yn y gampfa roi allwedd dros dro i chi. Rhaid talu blaendal am yr allwedd a dim ond yn ystod yr wythnos y mae’r allweddi hyn ar gael.

Gallwch brynu allwedd newydd am dâl bach.

Alla i gael rhagor o gymorth ar ôl cwblhau'r sesiwn gynefino?

Rydym yn darparu sesiynau dan oruchwyliaeth yn ystod yr wythnos, fel rheol rhwng 12.00-2.00pm a 4.00-9.30pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Bydd ein hyfforddwyr cymwysedig yn bresennol i’ch helpu yn ôl y galw. Fel arall, os hoffech gael rhaglen neu darged penodol, defnyddiwch ein Gwasanaeth Hyfforddiant Personol.

Rwyf wedi cwblhau sesiwn gynefino mewn man arall. Oes rhaid i mi gwblhau sesiwn gynefino arall?

Mae’n rhaid i chi gwblhau proses gynefino’r Brifysgol er mwyn defnyddio ein cyfleusterau. Mae ein gwasanaeth cynefino cynhwysfawr yn cael ei ddarparu gan hyfforddwyr cymwysedig ac mae wedi’i deilwra’n benodol i’r Ganolfan Wellness. Mae hyn yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Oes angen i mi ddod ag unrhywbeth i'r sesiwn gynefino?

Mae’r sesiwn gynefino’n rhannol actif, felly bydd angen i chi wisgo dillad ymarfer, fel tracwisg ac esgidiau chwaraeon. (Peidiwch â gwisgo jîns neu esgidiau.) Cewch gyfle i ddefnyddio’r offer a gofyn cwestiynau. Bydd rhai’n gwneud nodiadau yn ystod y sesiwn neu’n nodi gosodiadau cywir y peiriannau i’w defnyddio yn y dyfodol.


Rydym yn argymell eich bod yn dod â photel ddŵr a thywel hefyd.