Pwysau Rhydd

ystafell pwysau rhydd

Mae’r Ystafell Pwysau Rhydd yn darparu dull mwy penodol a ‘naturiol’ o ymarfer y corff. Mae’r ystod gynhwysfawr o beiriannau cryfhau a siapio a’r dewis eang o bwysau rhydd yn sicrhau bod modd canolbwyntio ar ymarferion sy’n berthnasol i’ch chwaraeon neu’ch targedau hyfforddi chi. Ymhlith yr offer yr ydym wedi’u prynu ar gyfer yr ystafell yn ddiweddar mae detholiad o ddymbels sy’n estyn o 2.5kg i 50kg a dwy fainc oledd.

I ddefnyddio’r ystafell, gall y rheini sy’n gyfarwydd â defnyddio pwysau rhydd yn ddiogel ac yn effeithiol gael achrediad sy’n costio £5.00. Gall y rheini sy’n dechrau codi pwysau ddod i un o’r sesiynau cynefino rheolaidd. Gallwch drefnu’r naill neu’r llall yn y dderbynfa.  

Peiriannau Pwysau