'Canolfan Wellness'
Croeso i'r 'Ganolfan Wellness' - Campfa Prifysgol Aberystwyth
Rydym yn falch o fedru cynnig y cyfarpar ffitrwydd gorau sydd ar y farchnad i chi wedi'u lleoli mewn pum ardal arbenigol o fewn y Ganolfan Chwaraeon.
- Theatr Cardio y Ganolfan Wellness
- Ystafell Cyfarpar Cryfhau wedi'u Llwytho.
- Ystafell Pwysau Rhydd
- Hyfforddi Personol a'r Parth Menywod
- Stiwdio Spin® Newydd Sbon
Mae'r cyfleusterau diweddaraf hyn yn cynnig y cyfle i'n holl aelodau ymarfer mewn awyrgylch hyfryd gyda'r cyfle i wneud ffrindiau, ymlacio ac, wrth gwrs, cyflawni targedau iechyd a ffitrwydd.
P'un ai ydych yn ymarfer yn rheolaidd eisoes - neu eisiau dechrau gwneud hynny- mae gennym y cyfleusterau, y gwasanaeth a'r profiad i ateb eich anghenion. Rydym yn deall bod pobl yn defnyddio'r gampfa am bob math o resymau, er enghraifft er mwyn cynyddu ffitrwydd; gwella iechyd; cryfhau; colli pwysau; gwaredu straen; newid siap neu er mwyn teimlo'n fwy egnïol. Mae'r "System Wellness" yn caniatáu i chi gyflawni eich targedau ffitrwydd eich hunain. Yn syml - mae'n darparu'r 'cymorth ymarfer corff cyfrifiadurol' gorau posib ar y farchnad (hyfforddwr personol yn eich poced).
Fel aleod byddwch yn bwydo eich allwedd bersonol eich hunan i fewn i'r system, a fydd wedi'i rhag-raglenni gan hyfforddwr ac yna y byddwch yn dilyn eich rhaglen hyfforddi eich hunan trwy'r allwedd a'r consol ymarfer. Wrth i chi gyrraedd eich targedau, bydd yr allwedd yn uwchraddio'r rhaglen yn awtomatig i sicrhau eich bod yn parhau i wella eich perfformiad.
Gall hyn swnio braidd yn gymhleth ond er mwyn i'ch helpu i wneud y gorau o'r Ganolfan Wellness, rydym yn darparu sesiwn gynefino gynhwysfawr (a gorfodol) sy'n para awr. Mae’r sesiynau hyn ar gael i unrhyw un a gallwch archebu lle hyd at wythnos ymlaen llaw yn y Ganolfan Chwaraeon. Ar ôl cwblhau’r sesiwn gynefino, gall y rheini sy’n gymwys weithio heb gymorth, a gall y rheini sydd am gael cymorth ychwanegol fanteisio ar y cyfle i gael hyfforddiant personol neu dderbyn cyngor gan hyfforddwr ar adegau goruchwylio.
Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi ac i helpu chi i gyflawni eich targedau ymarfer.
Cewch ragor o wybodaeth am y System Wellness ar wefan y gwneuthurwr.