Iechyd a Lles

Croeso

Mae buddsoddi yn iechyd a lles y cyflogeion yn gwneud busnesau’n fwy cystadleuol” Wealth from Health 2007

Adnodd mwyaf y Brifysgol yw ei staff ac mae darparu campws iach i weithio arno yn gosod sylfaen gadarn i feithrin gweithlu hapus, iach ac ymroddedig.

Pam gwneud ymdrech i fod yn actif?

  • Mae’r syniad bod ffitrwydd yn golygu y gallwch redeg heb unrhyw ymdrech neu wneud cant o sit-ups yn hen ffasiwn ac yn gamarweiniol erbyn hyn.
  • Mae bod yn iach yn golygu’ch bod yn mwynhau bywyd a bod gennych yr egni i wneud yr holl bethau yr ydych am eu gwneud.
  • Mae bod yn actif yn fuddiol iawn i’ch iechyd – mae’n eich amddiffyn rhag llawer o afiechydon fel diabetes math 2, clefyd coronaidd y galon, pwysedd gwaed uchel, gordewdra a chanser y coluddyn. Gall pawb geisio bod yn iach drwy gymryd camau bach sy’n rhoi cyfanswm o 30 munud y dydd.
  • Gall fod yn haws integreiddio gweithgarwch i’ch bywyd bob dydd na neilltuo awr i fynd i’r gampfa. Mae ymchwil yn dangos bod cyfnodau byr o weithgarwch fel hyn yn ddilys fel 30 munud o weithgarwch parhaus.
  • Mae “defnyddio’r grisiau yn lle’r lifft” o fudd mesuradwy i’ch iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl.
  • Gall ymgorffori gweithgarwch yn eich diwrnod gwaith helpu – gallwch gerdded i gyfarfodydd, cerdded i weld cydweithiwr yn lle anfon e-bost, neu hyd yn oed barcio ymhellach oddi wrth y swyddfa.
  • Mae cynnydd bach yn cael effaith fawr ar eich iechyd a’ch lles.

Beth alla i ei wneud?

Yn gyntaf, ac yn fwyaf pwysig, dewiswch rywbeth yr ydych yn ei fwynhau. Yna, ceisiwch ddarbwyllo cydweithiwr i ymuno â chi i roi hwb i chi... mae’r cyfleusterau a ganlyn ar gael ar y campws:-

  • Campfa -  Gallwch ddefnyddio’r 3 campfa ar y campws. Mae’r campfeydd ar agor o 7.15am tan 9.30pm yn ystod yr wythnos ac o 9 tan 4pm ar benwythnosau. Mae staff hyfforddedig ar ddyletswydd yn ystod y dydd i’ch helpu â’ch ymarfer, neu i ddangos i chi sut i ddefnyddio’r peiriannau’n gywir.
  • Pwll a Sawnariwm  - Mae ein pwll ar agor o 7.15am, felly gallwch nofio, cael cawod a newid cyn mynd i’r gwaith. Rydym ar agor tan 9pm ac mae sesiwn nofio wythnosol ar gael ar gyfer staff yn unig.
  • Dosbarthiadau ymarfer a spin – mae nifer o wahanol ddosbarthiadau ar gael i ateb eich gofynion ffitrwydd. Mae dosbarthiadau dros yr awr ginio’n para 45 munud, sy’n rhoi digon o amser i chi gyrraedd yma, newid a dychwelyd i’r gwaith mewn pryd. Mae’r dosbarthiadau nos yn cychwyn am 5.15pm – gallwch dalu bob mis drwy’ch cyflog, neu dalu bob tro y byddwch yn ymweld â’r Ganolfan.
  • Cae Pob Tywydd – ar gael i chwarae pêl-droed, rygbi cyffwrdd neu hoci – pam na wnewch chi drefnu i dîm o’ch adran ymuno â’n cynllun rhyngadrannol "Chwaraeon Aber"?  Mae’n rhad ac am ddim i aelodau a chodir tâl bach ar staff eraill.
  • Badminton – badminton i staff yn unig bob nos Wener, neu galwch heibio yn ystod y dydd i archebu cwrt – am ddim i aelodau’r Ganolfan Chwaraeon.
  • Llwybrau Cerdded – Mae tri llwybr cerdded wedi’u nodi gan y Brifysgol sy’n mynd heibio i rai o’r coed prin sydd wedi’u plannu ar y campws. Mae’r llwybrau’n cychwyn o’r Ganolfan Chwaraeon ac yn para 20, 30 a 40 munud. Dewch i gasglu map neu dilynwch y pyst sydd wedi’u lliwio ar y campws.