Sut i gadw'n ffit ac iach

Faint sydd angen i mi ei wneud i gadw’n iach?

"Mae gweithgarwch corfforol nid yn unig yn cyfrannu at les, mae’n hanfodol ar gyfer iechyd da (yr Adran Iechyd 2004). Bydd cynyddu’r lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith y boblogaeth yn helpu i atal neu reoli dros 20 o gyflyrau a chlefydau. Mae hyn yn cynnwys clefyd coronaidd y galon, diabetes, rhai mathau o ganser, a gordewdra. Gall helpu i wella iechyd meddwl.”

http://www.nice.org.uk/nicemedia/live/11917/38983/38983.pdf

Yn ffodus, gall eich iechyd elwa ar 30 munud o weithgarwch cymedrol 5 i 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch rannu’r munudau hyn yn gyfnodau llai – er enghraifft, mynd am dro byr yn ystod eich egwyl neu’ch awr ginio – er mwyn sicrhau bod cadw’n actif yn rhan o’ch bywyd bob dydd. Drwy gadw’n actif, gallwch leihau’r risg o ddatblygu cyflwr difrifol fel clefyd coronaidd y galon, strôc neu diabetes math 2, a hynny hyd at 50%.

Ydych chi’n gwybod pa mor ffit ydych chi? Rhowch gynnig ar y prawf syml hwn. http://www.nhs.uk/Tools/Pages/Fitness.aspx?Tag=Lose+weight

Er mwyn gwella ffitrwydd, bydd angen i chi weithio ychydig yn galetach (ymarfer “egnïol”) lle byddwch yn colli’ch gwynt ac yn gwybod bod eich calon yn curo’n gryf. Serch hynny, dylai fod modd i chi barhau i gael sgwrs! Bydd y math hwn o ymarfer yn herio’ch calon a’ch ysgyfaint a bydd hyn yn ei dro’n gwella’ch system cardiofasgiwlar. Yn ddelfrydol, byddai’n dda gwthio’n erbyn yr hyn a elwir yn “drothwy” – lle byddwch yn teimlo’ch bod yn wynebu ychydig mwy o her, yn teimlo bod cyhyrau’r coesau ychydig yn drwm neu’n llosgi, a bod golwg braidd yn boenus ar eich wyneb... y newyddion da yw bod modd gwthio’ch ffitrwydd fel hyn mewn ysbeidiau byr o tua 10 – 30 eiliad, gan roi 1-2 funud i adfer. Felly, beth am fynd i redeg, ac yna rhedeg yn gynt am bellter byr, neu redeg i fyny grisiau neu fryn bach. Wrth reswm, mae hyn yn her i’ch calon a dylech ofyn am gyngor gan eich meddyg i weld a yw’r math hwn o ymarfer yn addas i chi os nad ydych wedi bod yn actif dros y chwe mis diwethaf. Os nad ydych yn siŵr, mae croeso i chi holi’r hyfforddwyr sydd ar ddyletswydd yn y gampfa, neu hyd yn oed ystyried trefnu i weld Hyfforddwr Personol i’ch cynghori am lefel eich ymarfer, a chael prawf ffitrwydd byr o bosib.


Sut i:
  1. Ymestyn yn effeithiol
  2. Gweithio ar eich ‘abs’
  3. Gwella cryfder craidd
  4. Helpu â phoen yn y cefn
  5. Colli pwysau
  6. Adeiladu cyhyra