Clwb 300
Aelodaeth o Ganolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth ar gyfer y cyhoedd
Mae cyfleusterau chwaraeon a hamdden Prifysgol Aberystwyth ar gael i bobl o bob oed, lefel ffitrwydd a gallu eu mwynhau. Yma, fe gewch hyd i bobl o’r un anian â chi sy’n gweithio tuag at ddyfodol iachach ac mae’r Clwb 300 yn gyfle i bobl o’r gymuned leol ddefnyddio ein canolfan. Gallwch ymuno fel unigolyn, cwpl neu deulu, neu gallwch fanteisio ar ein Haelodaeth Gorfforaethol ar gyfer cwmnïau. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy ... 01970 621500.
Beth yw manteision bod yn aelod?
Fel aelod o'r Ganolfan Chwaraeon, fe gewch yr holl fuddion gwych hyn.
Tâl aelodaeth 2010/11
1 Awst 2010 – 31 Gorffennaf 2011
Aelodaeth sylfaenol
Cewch ddefnyddio’r mannau chwaraeon dan do ac awyr agored am ddim a thalu prisiau is ar gyfer y gampfa, y pwll, y dosbarthiadau neu Box Rox.
| Tâl | Misol | Blynyddol |
|---|---|---|
| Unigolyn |
£30.42 | £125.00 |
| Cwpl
Chi a'ch priod neu'ch partner |
£16.29 | £195.00 |
| Teulu
Chi a'ch priod neu'ch partner ac unrhyw blant |
£21.08 | £253.00 |
| Plentyn
Rhaid i'r aelodaeth gyd-daro ag aelodaeth rhiant |
£2.88 | £34.50 |
Cardiau Aur
Mae Cerdyn Aur yn fodd o dalu ymlaen llaw am ymarfer – gallwch wneud hyn yn fisol drwy’ch banc ac osgoi’r drafferth o ddod ag arian parod gyda chi i’r Ganolfan. Mae’r taliad misol yn caniatáu i chi ymweld â’r gampfa, y pwll neu’r dosbarthiadau gynifer o weithiau ag y mynnoch. Yn fras, mae’n costio’r un faint â dod i’r Ganolfan a thalu wrth y til am 1.5 ymarfer – felly mae’n fuddiol iawn i’n cwsmeriaid ffyddlon! Ticiwch y blwch ar eich ffurflen gais neu anfonwch e-bost atom ac fe wnawn ni drefnu i chi gael mynediad ar unwaith.
| Cerdyn Aur | Taliad Misol |
|---|---|
| Cerdyn Aur y Gampfa |
£14.88 |
| Cerdyn Aur y Pwll |
£11.25 |
| Cerdyn Aur y Sba |
£12.25 |
| Cerdyn Aur Dosbarthiadau |
£14.00 |
| Cerdyn Aur Spin |
£14.00 |
| Cerdyn Platinwm (pob rhan) |
£41.17 |
Mae croeso i chi ddod yma i weld yr hyn sydd ar gael ac i siarad â’r staff a fydd yn gallu trefnu’r fargen orau ar eich cyfer. Mae’r Swyddfa Aelodaeth ar agor yn ystod yr wythnos ac mae ar agor tan 7pm ar ddydd Mercher a dydd Iau, felly mae croeso i chi alw heibio ar ôl dod o’r gwaith. Gallwch dalu am eich aelodaeth wrth y til neu drefnu debyd uniongyrchol i wasgaru’r gost. Gallwch lawrlwytho a llenwi’r ffurflen gais am aelodaeth, neu alw heibio i dderbynfa’r Ganolfan Chwaraeon. Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd i drafod eich opsiynau aelodaeth.
Ffurflen Gais Clwb 300 300 Club Application 2010
Ro'n i aelod y llynedd, felly beth sy'n digwydd?
Fel arfer, rydym yn anfon ffurflen adnewyddu atoch fis ymlaen llaw, ond mae croeso i chi anfon e-bost atom yn sports@aber.ac.uk neu ffonio 01970 621500 os ydych am ddiweddaru’ch aelodaeth ac fe wnawn ni lenwi’r ffurflenni gofynnol ar eich rhan. Bydd eich cerdyn adnabod presennol yn parhau i fod yn ddilys, felly cadwch afael arni.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Pan fyddwch wedi talu am eich aelodaeth, bydd modd i chi ddefnyddio’r Ganolfan Chwaraeon a manteisio ar holl fuddion bod yn aelod. Byddwn yn rhoi cerdyn adnabod i chi. Bydd angen i chi ddod â’r cerdyn gyda chi bob tro y byddwch yn ymweld â’r Ganolfan a’i chyflwyno wrth y dderbynfa, gan fod y cerdyn yn dal yr holl wybodaeth am eich aelodaeth ac unrhyw Gardiau Aur sydd gennych.