Buddion bod yn aelod
Fel aelod, cewch ddefnyddio ein holl gyfleusterau, gan gynnwys:- Y Pwll a’r Sawnariwm
- Campfa'r Ganolfan Wellness a’r Ystafell Pwysau Rhydd
- Wal Ddringo Dan Do Box Rox
- Cyfleusterau Awyr Agored
- Cyfleusterau Dan Do
Mae gennym ddewis da o ddosbarthiadau ymarfer os yw’n well gennych ymarfer mewn grŵp. Caiff dosbarthiadau’u cynnal 6 diwrnod yr wythnos ac mae dosbarthiadau ar gael ar bob lefel. Fel aelodau, cewch gofrestru’n gynnar a thalu pris is am bob sesiwn. Yn yr un modd â’r gampfa, gallwch brynu Cerdyn Aur sy’n caniatáu i chi fynd i unrhyw ddosbarth ymarfer corff.
Rydym yn ffodus o gael wal ddringo dan do ar y safle sy’n gyfle i chi ymarfer eich sgiliau dringo os yw’r tywydd yn wael. Os nad ydych wedi rhoi cynnig ar ddringo o’r blaen, gallwch ddod i sesiwn gynefino neu fynd ar gwrs dringo sy’n para 12 wythnos. Cewch ragor o fanylion ar dudalennau Box Rox.
Peidiwch anghofio am ein Pwll Nofio. Mae’r pwll nofio ar agor ar wahanol adegau yn ystod yr wythnos, ac rydym hefyd yn darparu nifer o wahanol Wersi Nofio a Dosbarthiadau Dŵr cyffrous, ynghyd â sawnariwm gwych i ymlacio ynddo.
Yn ychwanegol at hyn, mae gennym gyfleusterau na all y rhan fwyaf o’r campfeydd eraill eu cynnig, sef ystod eang o gyfleusterau dan do ac awyr agored am ddim i’n haelodau. Yn eu plith, mae cyfraddau is i ddefnyddio cyfleusterau Clwb Tenis Aberystwyth, rhwydi criced, cae artiffisial pob tywydd, a chaeau pêl-droed a rygbi ym Mlaendolau, Caeau’r Ficerdy a Phantycelyn.