Cardiau Aur

Mae Cardiau Aur yn caniatáu i chi ddefnyddio’ch hoff ran o’r Ganolfan cynifer o weithiau ag y mynnoch ar ôl talu un ffi. Mae Cardiau Aur yn seiliedig ar 1.5 sesiwn yr wythnos ac mae’n ffordd o arbed arian os ydych wrth eich bodd yn ymarfer. Mae hefyd yn osgoi’r drafferth o gario arian parod.

Prisiau Cardiau Aur
 2010-2011  Myfyriwr  Staff PA, Staff Cyswllt a Chlwb 300
Rhai sydd wedi ymddeol
Cerdyn Aur y Gampfa
 £124.00  £178.50  £166.00
 Cerdyn Aur y Pwll
 £61.00  £135.00  £98.00
Cerdyn Aur y Sba
 £75.00  £147.00  £119.00
 Cerdyn Aur Dosbarthiadau
 £125.00  £168.00  £145.00
 Cerdyn Aur Spin
 £125.00  £168.00  £145.00
 Cerdyn Platinwm
 £350.00

 

Cynnig Arbennig! Gostyngiad o £100 os byddwch yn prynu'r cerdyn cyn 17 Hydref 2010!

 

 

 

 £494.00  £375.00

Rhaid i’ch Cerdyn Aur redeg ochr yn ochr â’ch aelodaeth, ond gallwch ei phrynu ar sail pro rata ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn am ffi gweinyddol bach. Gallwch hefyd gael mwy nag un Cerdyn Aur... os oes gennych ddigon o amser i ymarfer. Os ydych yn ystyried cael Cerdyn Aur, ffoniwch y Swyddfa Aelodaeth i gael rhagor o gyngor, neu dewch i’r Ganolfan Chwaraeon i siarad ag un o’n staff a fydd yn gallu’ch helpu. Y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw llenwi ffurflen, talu gydag arian parod neu gerdyn, neu drwy ddebyd uniongyrchol, a defnyddio’r adnoddau cynifer o weithiau ag y mynnoch.

Cerdyn Aur y Gampfa – mynediad diderfyn i’r Ganolfan Wellness a’r Ystafell Pwysau Rhydd (rhaid cwblhau’r cwrs cynefino i gychwyn)

Cerdyn Aur y Pwll – mynediad diderfyn i’r pwll

Cerdyn Aur y Sba – am £1 ychwanegol y mis, pam na wnewch chi uwchraddio i gael Cerdyn Aur y Sba a defnyddio’r sawnariwm yn ogystal â’r pwll yn ddiderfyn?

Cerdyn Aur Dosbarthiadau – dewch i ymuno â chynifer o sesiynau ymarfer ag y mynnoch – darllenwch y rhaglen Ffit gyda’n Gilydd i weld yr holl fanylion.

Cerdyn Aur Spinsesiynau spin diderfyn drwy gydol yr wythnos.

Cerdyn Platinwm – ar gyfer defnyddwyr ymroddedig y Ganolfan Chwaraeon – mynediad diderfyn i’r campfeydd, y pwll, y sba, y wal ddringo, y dosbarthiadau a’r sesiynau troelli.