Clwb Sborti

Beth yw manteision ymuno â'r Clwb Sborti?

P’run a ydych yn dod i’r gampfa i fod yn ffit, neu am ymuno â chlwb, yna’r Cerdyn Sborti yw’ch pasbort i gael prisiau rhatach, i ymuno â chlybiau ac i gymryd rhan mewn cystadlaethau. Isod, rhestrir manteision Aelodaeth o’r Clwb Sborti a gynigir gan y Ganolfan Chwaraeon a Swyddfa Athletig Undeb y Myfyrwyr ar hyn o bryd:

  • Efallai ei fod yn costio £37, ond dim ond 10c y diwrnod yw hynny!
  • Mae croeso i chi ddefnyddio cyfleusterau’r Ganolfan Hamdden at ddibenion hamdden am ddim e.e. y maes chwarae pob tywydd, y cyrtiau badminton, y cwrt pêl-fasged, y cyrtiau sboncen (talu am oleuadau), y stiwdio ddawns, y caeau chwarae, y rhwydi criced, y cyrtiau tenis ac ati.
  • Mae croeso i chi roi cynnig ar eich hoff chwaraeon neu ymuno â chlwb newydd – mae dros 50 o glybiau chwaraeon yma yn Aber. Bydd yr holl fanylion ar gael ar Ddiwrnod Chwaraeon y Glas, sef 27 Medi 2010, yn y Gawell (gerllaw’r adeilad Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer). Cewch ymuno â chynifer o glybiau ag y mynnwch, ond rhaid i chi gael CERDYN SBORTI yn gyntaf... fydd dim modd i chi chwarae dros y Brifysgol hebddo!
  • Sicrwydd yswiriant ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n aelodau ac sy’n cymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon neu ymarfer ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Mae Aber yn rhan o Gymdeithas Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) sy’n trefnu nifer o wahanol gystadlaethau a phencampwriaethau o safon uchel yn erbyn prifysgolion eraill y DU. Rhaid i chi gael Cerdyn Sborti er mwyn cymryd rhan yn y cystadlaethau hyn ac mewn cynghreiriau lleol a chystadlaethau cyfeillgar.
  • Mae holl ddeiliaid y Cerdyn Sborti’n cael gostyngiadau gwych er mwyn mynd i unrhyw un o’r tair campfa, yr ystafell pwysau rhydd, y pwll, y sesiynau ymarfer neu’r sesiynau spin...

Sut alla i ymuno?

Fe allwch lawrlwytho’r ffurflen gais (Ffurflen Gais Clwb Sborti 2010 - 2011  ), neu gael gafael ar ffurflen o’r Ganolfan Chwaraeon, neu alw heibio i Ffair y Glas yn ystod wythnos gyntaf y tymor (dydd Mawrth 28 Medi yw’r Diwrnod Chwaraeon, felly bydd angen Cerdyn Sborti arnoch er mwyn ymuno ag unrhyw glwb) neu anfonwch e-bost at sports@aber.ac.uk ac fe anfonwn ffurflen atoch!


Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i’r Ganolfan Chwaraeon gyda’ch siec. Rydych yn defnyddio’ch cerdyn llyfrgell i gael mynediad i’r Ganolfan Chwaraeon a’ch Cerdyn Sborti i ymuno â chlybiau (bydd angen i chi ddarparu llun pasbort i gael Cerdyn Sborti, gan nodi’ch enw’n glir ar gefn y llun). Mae’r cyfeiriad ar ochr chwith y dudalen hon ac os oes modd i chi ddychwelyd eich ffurflen cyn 1 Medi 2010, cewch gymryd rhan yn y gystadleuaeth ‘Adar Cynnar’ i gael cyfle i ennill aelodaeth blwyddyn am ddim!

Ffïoedd

Cerdyn 3 blynedd - £97

Dyma’r cerdyn i’r rheini ohonoch sydd wrth eich bodd â chwaraeon ac sy’n gwybod y byddwch am gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol. Talwch unwaith ac ni fydd rhaid i chi boeni am unrhyw gynnydd mewn pris dros y tair blynedd nesaf!

Cerdyn 2 flynedd - £69

Os bu i chi fwynhau defnyddio’r Ganolfan Chwaraeon yn ystod eich blwyddyn gyntaf, dyma gyfle i brynu cerdyn sborti ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, ac arbed ychydig o arian.

Cerdyn blwyddyn - £37

27/09/2010 - 30/09/2010

Aelodaeth Teulu

Mae’r cerdyn Aelodaeth Teulu’n caniatáu i chi, eich partner neu’ch priod, ac unrhyw blant o dan 19 oed ymuno am £63 am flwyddyn.


Os ydych yn rhiant sengl, gallwch ychwanegu aelodaeth plentyn at eich cerdyn sborti am £14 yn ychwanegol.

Cardiau Tymor

(am semester yn unig)

 Dyddiad  Pris
Cerdyn yr Hydref1
 £23.00
Cerdyn y Gwanwyn2
 £23.00
Cerdyn yr Haf3
 £21.00
Cerdyn TAR4
 £22.25

127/09/10 - 30/01/11
231/01/11 - 05/06/11
306/06/1 - 30/09/11
4 Ar gyfer graddedigion ar gwrs ymarfer dysgu

Cardiau Aur

Pan fyddwch yn aelod, gallwch ychwanegu Cerdyn Aur at eich aelodaeth, lle gallwch dalu ymlaen llaw i ddefnyddio’ch hoff ran o’r Ganolfan – ac arbed arian! Mae pob Cerdyn Aur yn seiliedig ar 1.5 ymweliad yr wythnos, felly os ydych yn nofio, yn ymarfer corff neu’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, pam na wnewch chi fanteisio ar y pecyn gwych hwn ac arbed ychydig o arian (mae rhai hyd yn oed yn prynu’r cardiau i SICRHAU eu bod yn mynd i’r gampfa...)


Eleni, mae gennym gynnig arbennig iawn, sef £100 oddi ar bris Cerdyn Platinwm – felly, rydych yn talu £250 am flwyddyn gyfan ac yn cael mynediad DIDERFYN at bopeth yn y Ganolfan Chwaraeon (ac eithrio Hyfforddiant Personol) – felly, cewch fynd i’r gym, nofio, mynd i ddosbarth neu ddringo... a’r cyfan am £5 yr wythnos... prynwch eich cerdyn cyn 17 Hydref 2010 i fanteisio ar y cynnig arbennig hwn.

Cofiwch, gallwch ddiweddaru’ch aelodaeth gyda Chardiau Aur yn ddiweddarach. Llenwch y ffurflen a thalwch y ffi yn y Dderbynfa.

 Rhan o'r Ganolfan
 Cerdyn Aur
Pris yr wythnos - ymweliadau diderfyn
Pris arferol am bob ymweliad
Canolfan Wellness1
 £124.00  £2.48  £1.85
Ffit gyda'n gilydd2
 £125.00  £2.50  £3.00
 Pwll3  £61.00  £1.22  £0.75
Sba4
 £75.00  £1.50  £3.00