Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau Cyffredinol Aelodaeth o'r Ganolfan Chwaraeon
Diben yr amodau a ganlyn yw sicrhau bod yr holl aelodau’n gwneud y gorau o fuddion Aelodaeth o’r Ganolfan Chwaraeon mewn modd diogel a chytûn.
- Rwy’n cytuno i ddod â cherdyn llyfrgell PA neu gerdyn y Ganolfan Chwaraeon gyda mi i’w sganio bob tro y byddaf yn ymweld â’r Ganolfan Chwaraeon.
- Rwy’n cytuno i wneud cais am fy Ngherdyn Sborti neu Gerdyn Aelodaeth papur, a’i gario gyda mi, fel prawf o’m haelodaeth ar gyfer cyfleusterau neu weithgareddau tu allan i’r Ganolfan Chwaraeon.
- Rwy’n deall bod Aelodaeth o’r Ganolfan Chwaraeon yn rhoi hawl i mi ddefnyddio’r cyfleusterau am ddim ac ar gyfradd ostyngedig a bod modd i’r taliadau hyn newid o bryd i’w gilydd, yn ôl disgresiwn y rheolwyr.
- Rwy’n deall bod Cerdyn Aur yn rhoi hawl i mi gael mynediad diderfyn at ran benodol o’r Ganolfan drwy gydol f’aelodaeth.
- Rwy’n deall na ellir ad-dalu fy ffi aelodaeth o dan amgylchiadau arferol.
- Rwy’n cytuno na fyddaf yn benthyg fy ngherdyn i unrhyw un arall ac os byddaf yn gwneud hynny, gall arwain at dynnu f’aelodaeth yn ôl.
- Rwy’n cytuno i gydymffurfio â’r amodau a bennir ar gyfer pob cyfleuster chwaraeon ac a orfodir gan staff y Ganolfan Chwaraeon.
- Bydd yr amodau hyn naill ai’n cael eu cyflwyno i chi neu byddant yn cael eu harddangos mewn man amlwg yn y cyfleuster.
- Rwy’n cytuno i roi gwybod i aelod o staff y Ganolfan Chwaraeon os oes gen i gyflwr meddygol a all beryglu diogelwch eraill neu fy niogelwch fy hun tra ‘mod i’n defnyddio’r Ganolfan Chwaraeon, neu os bydd cyflwr o’r fath yn datblygu.
- Rwy’n deall na all y rheolwyr ysgwyddo cyfrifoldeb am unrhyw eiddo personol a gaiff ei ddwyn neu’i golli o’r ystafelloedd newid.
- Er bod Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus y Brifysgol yn rhoi sicrwydd i mi, rwy’n deall fy mod yn gyfrifol am sicrhau bod gennyf yswiriant atebolrwydd personol ar gyfer unrhyw anafiadau chwaraeon sy’n codi tra ‘mod i’n defnyddio cyfleusterau’r Ganolfan Chwaraeon neu’n cymryd rhan ar gwrs yno.
- Rwy’n deall y bydd rhaid i mi dalu £3 am gerdyn newydd os byddaf yn colli cerdyn y Ganolfan Chwaraeon.
- Rwy’n deall, fel rhan o’m haelodaeth, bod modd i staff y Ganolfan Chwaraeon weld y wybodaeth gyfyngedig a gedwir ar fy ngherdyn e.e. dyddiad geni, cyfeiriad ac ati. Ni chaiff y wybodaeth hon ond ei defnyddio’n unol â chanllawiau’r Ddeddf Diogelu Data.
- Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i wrthod caniatáu mynediad a/neu aelodaeth.
- Rwy’n deall bod arnaf angen Cerdyn Sborti i ymuno ag unrhyw un o Dimau Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth.
- Rwy’n cytuno i gario fy Ngherdyn Sborti fel prawf o’m haelodaeth ar gyfer cyfleusterau neu weithgareddau tu allan i’r Ganolfan Chwaraeon.
- Rwy’n deall bod y Cerdyn Sborti’n rhoi hawl i mi ddefnyddio cyfleusterau, mynd ar gyrsiau, ac ymuno a thimau a Chlybiau Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth am ddim neu am bris gostyngedig, a bod modd i’r prisiau hyn newid o bryd i’w gilydd yn ôl disgresiwn y rheolwyr.
- Os byddaf yn canslo cyfleuster yr wyf wedi’i archebu heb roi digon o rybudd, rwy’n deall y bydd rhaid i mi dalu tâl priodol.
- Rwy’n deall bod yswiriant personol wedi’i gynnwys ym mhris y Cerdyn Sborti.
Diwygiadau Myfyrwyr - yn ychwanegol at yr amodau uchod.