Prisiau a phecynnau
Un i Un – Gam wrth Gam – Dim Esgusodion – Dim Ymyriadau – Dim ond Canlyniadau!
| Aelodau | Eraill | |
|---|---|---|
| 1 Sesiwn - 1 Person |
£23.00 | £28.00 |
| 5 Sesiwn (gan gynnwys Rhaglen) |
£92.50 | £112.50 |
| Asesiad Ffitrwydd |
£20.00 | £25.00 |
| Rhaglen |
£5.00 | £5.00 |
Arfer £345
21 sesiwn (gan gynnwys rhaglen) – Mae’n cymryd 21 sesiwn i ymarfer ddod yn arfer. Beth am ymrwymo i ddod yn ffit ac arbed arian ar yr un pryd? Un o’n sesiynau mwyaf poblogaidd.
Dysgu i Nofio Un i Un £92.50
10 sesiwn ½ awr i ddysgu i nofio – ar gael i blant ac oedolion.
Tynhau’r Corff £175
10 sesiwn (gan gynnwys rhaglen) i dynhau a siapio’ch corff.
Ymarfer Grŵp £65 yr awr
Trefnwch hyfforddwr personol ar gyfer grŵp o ffrindiau (hyd at 8): Pilates, Pêl Sefydlogrwydd, Siapio yn y Dŵr, SAQ, Plyometreg, a mwy.
Nid oes modd cynnig yr opsiwn hwn yn y gampfa.
Sut alla i drefnu i gael Hyfforddwr Personol?
Ffoniwch y Ganolfan Chwaraeon ar 01970 621 521 neu anfonwch e-bost at dnh@aber.ac.uk neu dewch i’r Ganolfan Chwaraeon a llenwi taflen archebu a bydd rhywun yn cysylltu â chi i drefnu’ch sesiwn.
I ble ddylwn i ddod?
Dylech gwrdd â’ch Hyfforddwr Personol neu’ch Therapydd Chwaraeon yn Nerbynfa’r Ganolfan Chwaraeon.
Sut ddylwn i dalu?
Dylech dalu am y rhaglen o’ch dewis cyn y sesiwn gyntaf. Dylai sieciau fod yn daladwy i Brifysgol Aberystwyth, neu gallwch drefnu i dalu drwy ddebyd uniongyrchol. Fel arall, gallwch dalu gyda cherdyn credyd/debyd (ffoniwch y Swyddfa Aelodaeth ar 01970 621 500, rhwng 10am-4pm).