Sawnariwm

Beth yw Sawnariwm Nordig?

Mae’n gaban pren o safon uchel heb geinciau sy’n creu amgylchedd ymdrochi rhwng sawna sych ac ystafell stêm wlyb. Mae’r cyfuniad cytbwys o wres a lleithder yn creu awyrgylch ‘trofannol’ sy’n ddelfrydol er mwyn ymlacio ac adfywio.

Mae’r Sawnariwm yn darparu gwres a lleithder wedi’i reoli i’r caban, gan weithredu ar dymheredd o rhwng 50-60°C, gyda lleithder rhwng 40-50%. Mae’r Sawnariwm yn cynnig profiad ymdrochi gwahanol a gallwch ychwanegu ato gydag olewon naws, peraroglau a goleuadau.

Peraroglau

Gallwch ychwanegu at y profiad ymdrochi drwy gyflwyno nifer o wahanol olewon naws yn y categorïau a ganlyn – Dadflino, Ymlacio, Adfywio, Egsotig a Hudolus.

Canllawiau

I gael rhagor o wybodaeth am reolau defnyddio’r Sawnariwm, cliciwch ar y ddolen isod.
Rheolau defnyddio’r sawnariwm / Rules and regs for the saunarium