Bridget James
Ysgrifenyddes Adrannol
Cyswllt
E-bost: bsp@aber.ac.uk
Ffôn: 01970 62 (2275)
Bywgraffiad
Graddiodd Bridget o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. Cyn cychwyn ar ei swydd fel Ysgrifennydd yr Adran yn y Ganolfan Chwaraeon ym mis Hydref 2007, bu’n gweithio mewn nifer o swyddi gweinyddol a threfniadol gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
Mae Bridget yn aelod o Glwb Athletau Aberystwyth ac yn Hyfforddwr lefel dau gyda chorff Athletau’r DU, felly mae ei sesiynau Ffit-redeg Ffit-redegnewydd sbon yn seiliedig ar sawl blwyddyn o brofiad o redeg at ddibenion hamdden. Mae Bridget hefyd yn hoff o nofio a mynd i’r gym, felly mae’n treulio llawer o’i hamser rhydd yn ymarfer yn y Ganolfan Chwaraeon a’i chyffiniau!!